Celynnin

sant o'r 5ed neu'r 6ed ganrif

Sant Cymreig oedd Celynnin (ceir y ffurfiau Celymin a Celynen hefyd) oedd yn byw yn y 5ed neu'r 6g, yn ôl traddodiad. Ychydig a wyddys amdano.

Celynnin
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
TadTyno Helig Edit this on Wikidata
Dwy eglwys a gysegrwyd i Santes Celynnin)

Dywedir ei fod yn un o feibion niferus Helig Foel. Sefydlodd ddwy eglwys (neu llan), un ar lethrau gorllewinol Dyffryn Conwy a'r llall ar lan Bae Ceredigion ym Meirionnydd.

Mae'r hen eglwys Llangelynnin yn Nyffryn Conwy yn hynafol iawn; credir y gall rhannau o'r eglwys bresennol ddyddio o'r 12g, ac mae rhannau healaeth ohoni o'r 14g.[1] Yn y fynwent cweir ffynnon, a elwir yn Ffynnon Gelynnin. Roedd yn ffynnon sanctaidd ac arferid trochi plant sâl ynddi i'w gwella. Roedd plant yn cael eu bedyddio ynddi hefyd.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. H. Harold Hughes & Herbert L. North, The old churches of Snowdonia (Bangor, 1924)
  2. T.D. Berverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).