Agor y brif ddewislen

Tarddiad neu fan lle mae dŵr yn codi o'r ddaear ydy ffynnon; twll yn y ddaear, fel arfer.

Tyfodd rhai trefi yn ystod y 19g o amgylch ffynhonnau iachusol, trefi megis Llandrindod ym Mhowys gan y credir eu bônt yn iachusol.

Ffynhonnau seintiau CymruGolygu

Sefydlwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn 1996, gyda'r nod o warchod ffynhonnau Cymru sydd â thraddodiadau'n perthyn iddynt neu sydd o bensaerniaeth diddorol. Maent yn cyhoeddi cylchgrawn "Llygad y Ffynnon" ddwywaith y flwyddyn; y golygydd ydy'r awdur Eirlys Gruffydd.

Ers y Canol Oesoedd roedd y ffynhonnau hyn yn denu llawer o bererinion a chleifio atynt i gael eu gwella, ac roedd pob math o ofergoelion ynghlwm a nhw. Ceir dros 1,000 ohonynt yng Nghymru, gyda dros eu hanner wedi'u cysegru i seintiau Cristnogol. Mae llawer o'r ffynhonnau hyn, fodd bynnag, yn dyddio'n ôl i gyfnod cyn-Gristnogol; roedd gan y Celtiaid gryn barch at ddŵr ac roedd ganddynt dduwiau i warchod dyfroedd arbennig.

Mae dros traean o'r 1,000 yn ffynhonnau iachaol a thyrai pobl atynt i yfed y dŵr neu ymdrochi ynddo. Defnyddid rhai ffynhonnau i felltithio neu ddarogan e.e. Ffynnon Eilian (Llan-yn-Rhos, Betws-yn-Rhos) ble arferai pobl dalu i felltithio eu gelynion neu i gael gwared o felltith. Arferid hefyd addurno'r ffynhonnau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.[1]

Ffynhonnau MônGolygu

Ceir tuag ugain o ffynhonnau hanesyddol bwysig ar Ynys Môn. Gweler: Ffynhonnau Môn.

Gwledydd eraillGolygu

 
Ffynnon ddŵr mewn mynachdy yn yr Almaen

LlênGolygu

Ceir chwedl hynafol o'r enw Iarlles y Ffynnon lle ymddengys y Marchog Ddu pob tro mae rhywun yn tywallt ychydig ddŵr ar garreg y ffynnon.

 
Ffynon enwog y Manneken Pis ym Brwsel.

 

Ffynhonau o bob mathGolygu

Ceir hefyd ffynhonau olew a nwy.

CyfeiriadauGolygu

Chwiliwch am ffynnon
yn Wiciadur.