Cennin Pedr Glenan
Darganfyddwyd cennin Pedr Glenan "Foeon Glenan" yn Llydaweg yn 1803 gan fferyllydd o Kemper, Llydaw.
Erbyn y 1950au roedd cennin Pedr Glenan mewn perygl o ddiflannu ac erbyn 1973 fe sefydlwyd warchodfa natur i'w warchod ar Ynys Sant Nicolas sydd yn rhan o Ynysfor Glenan oddiar arfordir deheuol Penn-ar-Bed. Mae'r cennin Pedr hwn yn medru tyfu hyd at 40cm o daldra. Ei enw Lladin yw Narcissus triandrus isrywogaeth capax - cyfieithiad o'r gair 'triandrus' yw trifrigerog sy'n golygu enw dosbarthiadol ar blanhigion â rhannau benywaidd a gwrywaidd gyda blodau sydd a thri briger anghydlynol, ac fel rheol mae blodau'r cennin Pedr hwn felly gyda dau neu dri pen-blodyn.
Cenin Pedr Glenan yw'r unig un o ddau is-rhywogaeth o blanhigion sydd yn gwbl gynhenid i wlad Llydaw.
Foeon Glenan (Narcissus triandrus subsp. capax) a zo un isspesad eus Narcissus triandrus, brosezat en Inizi Glenan e Breizh.