Cymuned a thref Llydaw yw Kemper (Ffrangeg: Quimper; Lladin: Corspotium). Kemper yw prifddinas département Penn-ar-Bed, a hen brifddinas Bro Gerne.

Quimper
Kemper
Quimper2011.png
Arfbais Quimper
Arfbais
Gwlad Ffrainc
Rhanbarth Llydaw
Département Finistère
Arrondissement Quimper
Intercommunality Quimper
Arwynebedd1 84.45 km2 (32.61 mi sg)
Poblogaeth (2008)2 63,929
 • Dwysedd 760/km2 (2,000/mi sg)
Parth amser CET (UTC+1)
 • Summer (DST) CEST (UTC+2)
INSEE/Postal code 29232 / 29000
Uchder −5–151 m (−16–495 ft)
(cyfart. 6 m or 20 ft)

1 Data o Gofrestr Tir Ffrainc, sy'n hepgor llynnoedd, pyllau, rhewlifau > 1 km² (0.386 sq mi neu 247 erw) ac aberoedd yr afonydd.

2 'Poblogaeth heb "gyfri dwbwl": trigolion mwy nag un gymuned (e.e. myfyrwyr a milwyr - cyfrifwyd unwaith yn unig.

Mae kemper yn air Llydaweg sy'n cyfateb i'r gair "cymer" (afonydd) yn Gymraeg; mae Afon Steir, Afon Oded ac Afon Jet yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r 11g, a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y 13g a'r 16g. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Corentin, esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin Kêr-Ys, ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.

PoblogaethGolygu

 

TwristiaethGolygu

Mae'r dref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn adnabyddus am ei chrochenwaith. Mae dwy ysgol Diwan yn y dref.

Mae'n un o'r drefi ar lwybr pererindod y Tro Breizh.

GaleriGolygu

Pobl o KemperGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: