Cennydd Traherne

tirfeddiannwr (1910-1995)
(Ailgyfeiriad o Cennydd George Traherne)

Tirfeddiannwr o Gymro oedd Syr Cennydd George Traherne, KG, TD (14 Rhagfyr 191026 Ionawr 1995).[1]

Cennydd Traherne
Ganwyd14 Rhagfyr 1910 Edit this on Wikidata
Coedarhydyglyn, Sain Nicolas Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ionawr 1995 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethtirfeddiannwr Edit this on Wikidata
SwyddArglwydd Raglaw Morgannwg Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata
Delweddau allanol
Paentiad o Syr Cennydd Traherne.

Dymunodd ei fam, Albanes, roi iddo'r enw Kenneth ar ôl un o frenhinoedd hynafol yr Alban, ond wrth ei fedyddio ysgrifennodd y clerigwr Cymraeg y ffurf Cennydd yng nghofrestr y plwyf. Roedd yn gallu olrhain ei linach i deulu Traherne Castellau, ger ei dref enedigol Llantrisant, ac Edmund Traherne yn y 16g. Mynychodd Cennydd Goleg Wellington a Choleg y Trwyn Pres, Rhydychen, gan ddysgu'r gyfraith. Gwasanaethodd yn y fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bu'n glanio yn Ffrainc ar Dydd-D+1, ac yn hwyrach cafodd ei enwi mewn adroddiadau.[1]

Daeth yn Arglwydd Raglaw Morgannwg ym 1952, ac roedd yn Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg o 1974 hyd 1985. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1964 a'i urddo'n Farchog y Gardas ym 1970. Yn rhinwedd ei swydd yn Arglwydd Raglaw, roedd hefyd yn Custos Rotulorum, hynny yw ceidwad archifau'r siroedd. Fel y Custos roedd yn gadeirydd Pwyllgor Cofnodion Morgannwg, yn hwyrach Cyd-Bwyllgor Archifau Morgannwg, o 1952 hyd 1985.[1]

Nid oedd Syr Cennydd yn medru'r Gymraeg, ond ymdrechodd ef a'i wraig yr Arglwyddes Rowena i'w dysgu. Buont yn byw ym mhlasty Coedarhydyglyn, adeilad o gyfnod y Rhaglywiaeth ar gyrion Caerdydd gyda golygfa dros ddyffryn Elái. Prynodd Ystâd Dyffryn ym 1937, ac yn hwyrach fe'i roddwyd ar brydles i Gyngor Sir Forgannwg.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Sir Cennydd Traherne, K.G., T.D., li.d., 1910-95". The Journal of Glamorgan History, Cyfrol XXXIX 1995. Cylchgronau Cymru Ar-lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd 28 Medi 2015.