Caerdydd
Prifddinas Cymru yw Caerdydd ( ynganiad Saesneg: Cardiff); hon yw dinas fwyaf Cymru a'r ddegfed fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Daeth yn ddinas yn 1905 ac yn brifddinas Cymru yn 1955. Yma mae canolfan fasnachol fwyaf Cymru ac mae'r rhan fwyaf o sefydliadau cenedlaethol Cymru wedi eu lleoli yma hefyd. Mae poblogaeth Caerdydd oddeutu 361,469 (2016)[1] a'r ddinas gyfan (ardal 'Caerdydd Fwyaf' neu 'Ardal Drefol Caerdydd') sy'n cynnwys Penarth a Dinas Powys yn 447,487[2].
Arwyddair | Deffro! Mae'n Ddydd! |
---|---|
Math | dinas fawr, y ddinas fwyaf, dinas |
Enwyd ar ôl | Afon Taf |
Poblogaeth | 361,469 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | Amser Cymedrig Greenwich |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Cymraeg, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 140.3 km² |
Uwch y môr | 41 metr |
Gerllaw | Afon Taf, Môr Hafren, Afon Elái |
Yn ffinio gyda | Llantrisant |
Cyfesurynnau | 51.4817°N 3.1792°W |
Cod post | CF |
Ceir llawer o brifddinasoedd ledled y byd sy'n llai na Chaerdydd gan gynnwys prifddinasoedd: Bern, Y Swistir (134,506 (31 Rhagfyr 2022)[3]), Brwsel, Gwlad Belg (195,546 (1 Ionawr 2024)[4]) a Wellington, Seland Newydd (215,400 (30 Mehefin 2018)).
Roedd Caerdydd yn dref fechan tan ddechrau'r 19g. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn enwedig pan gysylltwyd cymoedd De Cymru â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o borthladd Caerdydd. Yn 1851 roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.
Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel "Tiger Bay", ac ar un adeg hon oedd un o borthladdoedd prysuraf y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr. Roedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yno mae Canolfan y Mileniwm hefyd, sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm.
Enw
golyguYstyr yr enw Caerdydd yw 'caer (ar lan) afon Taf'. Datblygodd y ffurf honno o'r ffurf gynharach Caerdyf. Mae'r elfen -dyf yn tarddu o ffurf dreigledig gynnar ar enw afon Taf. Mae'n dangos affeithiad i'r llafariad (taf > tyf) dan ddylanwad terfyniad sydd bellach wedi ei golli.[5]
Hanes
golygu- Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaerdydd yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Yr iaith Gymraeg
golyguYn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 36,700 o bobl Caerdydd yn gallu siarad Cymraeg.
Ceir fersiynau electronig o erthyglau gan yr Athro E. Wyn James ar y Gymraeg a'i diwylliant yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ar wefan Y Dinesydd: http://dinesydd.cymru/teithiau/
Economi
golygu- Prif: Economi Caerdydd
Fel prifddinas Cymru, economi Caerdydd yw'r brif fan am dwf economi Cymru. Mae'r ddinas wedi'i lleoli ar Goridor yr M4, ac mae ei heconomi a'i hardaloedd cyfagos yn cyfrif am bron 20% o CMC Cymru. Yn y 19g, allforio glo a chynhyrchu dur oedd seiliau economi Caerdydd, gyda phorth y brifddinas yn allforio mwy o lo na Llundain a Lerpwl. Heddiw, mae'r ddinas yn dibynnu ar sectorau adwerthu, gwasanaethau ariannol, y cyfryngau, a thwristiaeth, ac wedi bod yn lleoliad i adfywiad ers hwyr yr 20g yn enwedig yng nghanol dinas Caerdydd a Bae Caerdydd.
Cestyll
golyguChwaraeon
golyguMae clwb pêl-droed proffesiynol y ddinas, C.P.D. Dinas Caerdydd (Cardiff City), yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Ar hyn o bryd mae'r clwb yn chwarae yn y Bencampwriaeth. Enillodd y clwb Gwpan FA Lloegr yn 1927.
Trafnidiaeth
golyguMae'r rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus yn y ddinas yn cael ei redeg gan Fws Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys wyth rheilffordd, i Faesteg, Bro Morgannwg a Maes Awyr Caerdydd, Treherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr, Coryton, Rhymni, a Bae Caerdydd. Mae gan y ddinas 22 orsaf fel gorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol Y Frenhines, ill dwy yng nghanol y ddinas.
Pobl o Gaerdydd
golygu- Dannie Abse
- Leo Abse
- Wilfred Abse
- Gareth Bale
- Shirley Bassey
- Craig Bellamy
- Jeremy Bowen
- Dave Burns
- Gillian Clarke
- Charlotte Church
- Roald Dahl
- Dave Edmunds
- Ken Follett
- Ryan Giggs
- Ioan Gruffudd
- Frank Hennessy
- John Humphrys
- Colin Jackson
- Christine James
- Bobi Jones
- Griff Rhys Jones
- Shelley Jones
- Rob Lacey
- Donna Lewis
- Gwyneth Lewis
- Lorna Morgan
- Rhodri Morgan
- Terry Nation
- Ivor Novello
- Pino Palladino
- Reuben Pengelly
- Edward V. Robertson
- Jon Ronson
- Iwan Rheon
- Lewis Shane
- Rebecca Scott
- Shakin' Stevens
- Clive Sullivan
- John Toshack
- Geraint Thomas
- Owen John Thomas
- R. S. Thomas
- Ada Vachell
- Ali Yassine
Cymunedau Caerdydd
golyguEisteddfod Genedlaethol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym 1883, 1899, 1938, 1960, 1978 a 2008. Am wybodaeth bellach gweler:
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://statswales.gov.wales/Catalogue/Population-and-Migration/Population/Estimates/Local-Authority/populationestimates-by-localauthority-year.
- ↑ Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, Wikidata Q855531, https://www.ons.gov.uk/census/2011census
- ↑ https://www.pxweb.bfs.admin.ch/pxweb/en/px-x-0102020000_201/-/px-x-0102020000_201.px/table/tableViewLayout2/.
- ↑ "Chiffres de population au 1er janvier 2024" (PDF).
- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 70
Dolenni allanol
golygu- Y Dinesydd http://dinesydd.cymru/
- Cyngor Caerdydd Archifwyd 2004-06-17 yn y Peiriant Wayback
- Prifysgol Caerdydd
- Menter Caerdydd Menter Iaith y ddinas
- Taith feicio dros yr amgylchedd sydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, a thrwy'r byd, bob blwyddyn. Archifwyd 2010-06-26 yn y Peiriant Wayback
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Llanelwy | Tyddewi |