Cennydd Traherne
Tirfeddiannwr o Gymro oedd Syr Cennydd George Traherne, KG, TD (14 Rhagfyr 1910 – 26 Ionawr 1995).[1]
Cennydd Traherne | |
---|---|
Ganwyd | 14 Rhagfyr 1910 Coedarhydyglyn, Sain Nicolas |
Bu farw | 26 Ionawr 1995 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | tirfeddiannwr |
Swydd | Arglwydd Raglaw Morgannwg |
Tad | Llewellyn Edmund Traherne |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Delweddau allanol | |
---|---|
Paentiad o Syr Cennydd Traherne. |
Dymunodd ei fam, Albanes, roi iddo'r enw Kenneth ar ôl un o frenhinoedd hynafol yr Alban, ond wrth ei fedyddio ysgrifennodd y clerigwr Cymraeg y ffurf Cennydd yng nghofrestr y plwyf. Roedd yn gallu olrhain ei linach i deulu Traherne Castellau, ger ei dref enedigol Llantrisant, ac Edmund Traherne yn y 16g. Mynychodd Cennydd Goleg Wellington a Choleg y Trwyn Pres, Rhydychen, gan ddysgu'r gyfraith. Gwasanaethodd yn y fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bu'n glanio yn Ffrainc ar Dydd-D+1, ac yn hwyrach cafodd ei enwi mewn adroddiadau.[1]
Daeth yn Arglwydd Raglaw Morgannwg ym 1952, ac roedd yn Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg o 1974 hyd 1985. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1964 a'i urddo'n Farchog y Gardas ym 1970. Yn rhinwedd ei swydd yn Arglwydd Raglaw, roedd hefyd yn Custos Rotulorum, hynny yw ceidwad archifau'r siroedd. Fel y Custos roedd yn gadeirydd Pwyllgor Cofnodion Morgannwg, yn hwyrach Cyd-Bwyllgor Archifau Morgannwg, o 1952 hyd 1985.[1]
Nid oedd Syr Cennydd yn medru'r Gymraeg, ond ymdrechodd ef a'i wraig yr Arglwyddes Rowena i'w dysgu. Buont yn byw ym mhlasty Coedarhydyglyn, adeilad o gyfnod y Rhaglywiaeth ar gyrion Caerdydd gyda golygfa dros ddyffryn Elái. Prynodd Ystâd Dyffryn ym 1937, ac yn hwyrach fe'i roddwyd ar brydles i Gyngor Sir Forgannwg.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Sir Cennydd Traherne, K.G., T.D., li.d., 1910-95". The Journal of Glamorgan History, Cyfrol XXXIX 1995. Cylchgronau Cymru Ar-lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd 28 Medi 2015.