Cerbyd i deithio ynddo, ac sy'n creu ei drydan ei hun ydy car solar. Unir nifer o decholegau amgen a blaengar, gan gynnwys technolegau diweddaraf y diwydiant awyrennau, beiciau, trenau a'r dechnoleg sydd y tu ôl i'r ceir confensiynol diweddaraf.

Car solar
MathCar trydan, solar vehicle Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscell solar Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Tokai Challenger: enillydd Cystadleuaeth Byd Solar 2009; gyda chyflymder cyfartalog o 100.5 km/awr dros daith o 2998 km.

Yn wahanol i'r car trydan arferol, sy'n cael ei wefru o ffynhonnell allanol e.e. garej neu brif gyflenwad y tŷ, mae'r car solar yn cynhyrchu ei drydan ei hun. Dyma brif gyfyngiad y car solar, gan ei fod yn ddibynol iawn ar yr haul. Ers 2011, fodd bynnag, ddatblygodd y dechnoleg cymaint fel y lansiwyd ceir solar masnachol ar gyfer ffyrdd cyhoeddus. Cyn hynny, fe'u crëwyd ar gyfer cystadleuthau'n unig.

Defnyddir celloedd ffotofoltaic (neu PV) i droi golau'r haul yn drydan. Ond yn wahanol i gelloedd solar ar do adeilad, sy'n creu ynni thermal, mae'r celloedd hyn yn cynhyrchu trydan a ddefnyddir yn y fan a'r lle.[1] Pan dyrr y ffotonau'n erbyn y celloedd PV, maent yn cynhyrfu'r electronau, gan achosi iddynt lifo ar hyd gwifren. Hyn sy'n 'creu'r' cerynt trydan. Defnyddir defnyddiau sy'n lled-ddargludyddion fel silicon ac aloion indiwm, galiwm a nitrogen. Silicon yw'r defnydd mwyaf cyffredin gan fod ei effeithlonrwydd dyrannol mor uchel: 15-20%.

Galeri golygu

Pwer golygu

Mae'r paneli mwyaf a chryfaf yn medru cynhyrchu yn agos i 2 cilowat (2.6 hp). Defnyddia'r modur sy'n troi'r echel lai o bwer na pheiriant gwneud tost: rhwng 2 a 3 farchnerth; er hyn gall y car solar gyrraedd cyflymder o 100 mi/awr (160 km/a).[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Pimentel, D. "Renewable Energy: Economic and Environmental Issues"; Archifwyd 2020-09-24 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 18 Ionawr 2015
  2. "Fastest solar-powered car on tour". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-03. Cyrchwyd 2015-01-18.

Gweler hefyd golygu