Cerddi'r Cywilydd

Cyfrol o gerddi gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ar 1 Mawrth 1972 yw Cerddi'r Cywilydd. Dyma ail gyfrol y bardd, yn dilyn Ugain Oed a'i Ganiadau (1966).

Cefndir y cerddi hyn, sy'n cynnwys rhai o gerddi Cymraeg gwladgarol mwyaf adnabyddus yr 20g, oedd cyfnod Arwisgiad 1969 a chyfeiria'r gair 'cywilydd' yn y teitl at waseidd-dra rhai Cymry a fu mor barod i gymryd rhan yn y basiant frenhinol, ym marn y bardd. Fel y noda Gwynn Jarvis yn ei ragymadrodd i adargraffiad 1990,

Cerddi cyfnod ydynt. Ym mlwyddyn y cyflyru mawr, aeth gosgordd fechan unwaith yn rhagor i Gatraeth. Caled yr ymladd yn wyneb grym cynheiliaid y drefn a da gan hynny fu cael gweledigaeth bardd yn gynhaliaeth - geiriau ysbrydoledig i'n cadw rhag gwall cof, geiriau er eu haml dristwch a'u hanobiaith a daniai ein llawenydd a'n hewyllys yn fflam o obaith.[1]

Mae'r gyfrol yn cynnwys cerddi o naws genedlaetholgar fel 'Etifeddiaeth', 'Tir Iarll', 'Fy Ngwlad' a 'Hen Genedl' sy'n amlygu safbwynt y bardd yn wyneb yr argyfwng a wynebai Cymru a'i hiaith ond ceir nodyn o hyder hefyd, er hynny, fel yn y gerdd 'Gobaith'.

Ceir sawl cerdd fwy personol ei naws hefyd. Mae 'Wedi'r Storm' yn gerdd fer i gofio'r athronydd J. R. Jones a cheir cerddi coffa dwys i bobl o Benllyn hefyd.

Manylion cyhoeddi golygu

Gerallt Lloyd Owen, Cerddi'r Cywilydd. Gwasg Gwynedd, 1972; sawl argraffiad arall ers hynny.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cerddi'r Cywilydd, argraffiad 1990, rhagymadrodd.