Etifeddiaeth (cerdd)


Cerdd Gymraeg gan y bardd Gerallt Lloyd Owen yw Etifeddiaeth a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cerddi'r Cywilydd (1972). Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae "Etifeddiaeth" yn ymdrin â Chymru a Chymreictod. Cerdd benrhydd gynangeddol ydyw a chanddi bum pennill.

Etifeddiaeth
Enghraifft o'r canlynolcerdd Edit this on Wikidata
AwdurGerallt Lloyd Owen Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Cynnwys golygu

Yn rhan gyntaf y gerdd hon pwysleisir cyfoeth ein hetifeddiaeth trwy ailadrodd yr hyn a gawsom. Yna yn yr ail ran mae'r cywair yn newid wrth i'r bardd nodi'r hyn a wnaethom a'n treftadaeth, ac yn awgrymu mai ni sy'n gyfrifol am y darn hwn o dir a'n bod yn atebol am ein gweithredoedd. Mae'r bardd yn feirniadol o'r hyn a wnaethom, er i ni etifeddu'r darn arbennig o dir a'r fraint o berthyn i genedl gyda'i hiaith a'i hanes unigryw ei hun rydym yn euog o werthu'n treftadaeth. Rydym wedi caniatau i'n tir gael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu dianghenraid ac wedi llygru'n hamgylchfyd a lladd cymdogaethau. Yn ogystal rydym wedi bradychu'n hetifeddiaeth trwy genhedlu plant heb barch at yr iaith. Cyfeirir atynt fel gwymon—trosiad effeithiol i ddangos eu bod heb wreiddiau yn cael eu cario gan y llif. Dibrisiwyd ein hetifeddiaeth gennym ac nid ydym yn ei thrysori fel y dylem.

Daw'r uchafbwynt ar y diwedd pan ddywed y bardd mai gwarth o beth yw aberthu yn enw cynnydd a bod cenedl sy'n derbyn popeth yn dawel a diwrthwynebiad yn wynebu difodiant.

Mesur golygu

Mae'r bardd wedi arbrofi gyda'r mesur yn y gerdd hon ac er bod cynghanedd ymhob llinell nid yw'n dilyn rheolau un o'r mesurau caeth traddodiadol. Does dim patrwm o ran odl na sillafau yn y gerdd. Amrywir hyd y llinellau ac mae disgyblaeth y gynghanedd yn cyfoethogi'r mynegiant. Gellir cyfeirio at y mesur felly fel y wers rydd gynganeddol.

Dyma enghraifft o gynghanedd groes a geir yn y pedwerydd pennill, lle mae'r cytseiniaid yn ail ran y llinell yn cyfateb â'r cytseiniaid yn y rhan gyntaf:

th r / s | th r / s
A throesom iaith yr oesau

Crefft ac arddull golygu

Mae'r gerdd "Etifeddiaeth" yn ymrannu'n ddwy ran a diweddglo a'r adeiladwaith yn gelfydd iawn. Mae'r pwyslais yn y rhan gyntaf ar y ferf oddefol "cawsom" ac yna daw newid wrth i'r bardd ddefnyddio'r ferf weithredol "troesom". Mae hyn yn gosod cynllun pendant i'r bardd gyfleu ei neges mewn ffordd glir a grymus. Mae'r trosiad "gwymon o ddynion heb ddal tro'r trai" yn cyfleu delwedd effeithiol i ddisgrifio Cymry heddiw. Ceir cwestiwn rhethregol a gwireb yn y llunell olaf wrth i'r bardd feirniadu agwedd lugoer ei gydwladwyr. Ei fwriad yw procio'r meddwl a llwydda i wneud hynny'n gynnil mewn iaith ffurfiol salmaidd ei naws lle mae urddas y gynghanedd yn cyfoethogi'r mynegiant a hyn yn gweddu i ddifrifoldeb y neges.

Digwydd cyflythrennu bron ym mhob llinell o ganlyniad i gyffyrddiadau cynganeddol y bardd. Nid yw'n medru dianc rhag y grefft o gynganeddu: "darn o dir yn dyst", "a phlannu coed a pheilonau cadarn", "gwerth cynnydd yw gwarth cenedl".

Themâu a neges golygu

Y thema a welir yn amlwg yn y gerdd yw pryder Gerallt Lloyd Owen am ddyfodol y wlad a diffyg awydd ei gyd-Gymry i ymladd drosti. Yn hanner cynta'r gerdd, rhestra'r holl bethau a gawsant yn rhan o'u hetifeddiaeth: gwlad, hanes, ac iaith. Ond er gwaethaf hyn, penderfynasant nad oeddynt am eu parchu a gofalu amdanynt oherwydd adeiladasant ffatrïoedd i gynhyrchu mwg i wenwyno'r amgylchfyd; planasant goed, nid i wella'r amgylchfyd, ond i gynhyrchu mwy o arian, a chodwyd peilonau trydan i anharddu'r tir. Dywed ein bod wedi magu plant heb ddysgu dim iddynt am orffennol y wlad a'r hanes cyfoethog sydd gennym. Disgrifiodd ni fel pobl wan a difywyd fel gwymon wedi ein dal ar y tywod, oherwydd nad ydym yn fodlon brywdro dros y gwerthoedd hyn. Dywed ein bod â chywilydd o'n hiaith ac nad ydym yn fodlon brwydro dros y gwerthoedd hyn. Beirniada'r genedl gyfan yn fan hyn gan gynnwys ef ei hun.

Cly'r gerdd drwy ofyn i ni ystyried sut ydym ni'n llwyddo yn y byd. Awgryma fod pobl yn credu mai'r ffordd o lwyddo mewn bywyd a gwneud elw a chynnydd yw drwy beidio dangos eu balchder yn eu gwlad a'u hiaith. Gorfoda ni i ystyried ai ni yw un o'r rhain sydd â chywilydd o gydnabod mai Cymry ydym. Gwneir i ni ystyried y mater mewn dull syml a diffwdan, heb bregethu, a llwydda i godi cywilydd ar y rhan fwyaf ohonom.

Dolenni allanol golygu