Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Sefydlwyd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (Saesneg: National Youth Orchestra of Wales) ym 1945 gan Irwyn Walters; hon oedd y gerddorfa genedlaethol ieuenctid gyntaf yn y byd.[1] Mae'r gerddorfa yn cynnwys tua 115 o chwaraewyr ifanc rhwng 13 a 21 oed o bob rhan o Gymru, a ddewiswyd trwy glyweliad. Mae’n cyflwyno cyngherddau mewn lleoliadau o fri yn y DU a thramor.
Yn draddodiadol, mae'r gerddorfa wedi penodi Prif Arweinydd a Chyfarwyddwr Cerdd preswyl. Mae'r rhain wedi cynnwys Clarence Raybould (1945–66), Arthur Davison (1967–90), Elgar Howarth (1991–5), Christopher Adey (1996–2002), Owain Arwel Hughes (2003–10), Takuo Yuasa (2011), Carlo Rizzi (2012, 2016–17), Grant Llewellyn (2013), Jac Van Steen (2014) a Paul Daniel (2015).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Beryl Bowen James a David Ian Allsobrook, First in the World: The Story of the National Youth Orchestra of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995)
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Swyddogol y Gerddorfa Archifwyd 2017-11-04 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Ffrindiau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru Archifwyd 2017-12-30 yn y Peiriant Wayback