Cerddoriaeth Ecwador
Mae cerddoriaeth Ecwador, yn debyg i agweddau eraill ar ddiwylliant y wlad, yn gyfuniad o draddodiadau Sbaenaidd, Affricanaidd, a brodorion yr Andes a brodorion y coedwigoedd glaw.[1] Mae traddodiadau cerddoriaeth werin Ecwador yn cynnwys yumbo a sanjuanito yn yr ucheldiroedd, a pasillo yn yr iseldiroedd. Ceir traddodiadau sydd yn cyfuno elfennau brodorol ac Affricanaidd yn y rhanbarth Amasonaidd, yr ucheldiroedd, a'r arfordir. Dylanwadir ar gerddoriaeth gyfoes Ecwador gan cumbia o Golombia a salsa o'r Caribî.
Enghraifft o'r canlynol | cerddoriaeth yn ôl gwlad neu ardal, genre gerddorol |
---|---|
Math | cerddoriaeth America Ladin, cerddoriaeth De America |
Lleoliad | Ecwador |
Gwladwriaeth | Ecwador |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ George M. Lauderbaugh, Historical Dictionary of Ecuador (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2019), t. 193.