Colombia
Gwlad yng ngogledd-orllewin De America yw Gweriniaeth Colombia neu Colombia (Sbaeneg: República de Colombia, /ynganiad: [re'puβ̞lika ð̞e ko'lombja]/). Mae'n ffinio â Feneswela a Brasil i'r dwyrain, Ecwador a Pheriw i'r de, y Cefnfor Iwerydd i'r gogledd (trwy Fôr y Caribî), a Phanama a'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin. Colombia yw'r unig wlad yn Ne America gydag arfordiroedd â'r Cefnforoedd Iwerydd a Thawel.
![]() | |
Arwyddair | Freedom and Order ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwladwriaeth seciwlar, gwlad, OECD country ![]() |
Enwyd ar ôl | Christopher Columbus ![]() |
Prifddinas | Bogotá ![]() |
Poblogaeth | 49,065,615 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Himno Nacional de la República de Colombia ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Iván Duque ![]() |
Cylchfa amser | UTC−05:00, America/Bogota ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De America ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,141,748 ±1 km² ![]() |
Uwch y môr | 223 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Ecwador, Panama, Periw, Feneswela, Brasil, Nicaragwa ![]() |
Cyfesurynnau | 4°N 73.25°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Colombia ![]() |
Corff deddfwriaethol | Congress of Colombia ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | President of Colombia ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Gustavo Petro ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of Colombia ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Iván Duque ![]() |
![]() | |
Arian | Colombian peso ![]() |
Canran y diwaith | 9.4 % ![]() |
Cyfartaledd plant | 1.897 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.752 ![]() |
Colombia yw'r wlad fwyaf ond tri yn Ne America yn nhermau arwynebedd (yn dilyn Brasil, yr Ariannin a Pheriw), a'r mwyaf ond un yn nhermau poblogaeth (yn dilyn Brasil). Mae'r mwyafrif o Golombiaid yn byw yng ngorllewin mynyddig y wlad, lle lleolir y brifddinas Bogotá a'r rhan fwyaf o ddinasoedd eraill. Mae daearyddiaeth amrywiol gan Golombia, o gopaon eiraog yr Andes i wastatiroedd twym, llaith Afon Amazonas.
Am y pedair degawd diwethaf, dioddefa Colombia gwrthdaro arfog ar raddfa fechan sy'n cynnwys mudiadau gwrthryfelwyr herwfilwrol, milisiâu, a masnachu cyffuriau. Dechreuodd y gwrthdaro tua 1964-1966, pan sefydlwyd yr FARC a'r ELN a dechreuont eu hymgyrchoedd gwrthryfelgar herwfilwrol yn erbyn y llywodraethau olynol. Ers etholiad Álvaro Uribe fel Arlywydd Colombia, mae sefyllfa diogelwch y wlad wedi gwella rhywfaint.
DaearyddiaethGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
HanesGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
GwleidyddiaethGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
DiwylliantGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
EconomiGolygu
Mae'r wlad yn enwog fel un o'r cynhyrchwyr coffi mwyaf yn y byd. Mae tyfu coca yn ddiwydiant traddodiadol hefyd.
Dolenni allanolGolygu
- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol Arlywydd Colombia
- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol Senedd Colombia