Cerddoriaeth hen ffasiwn
Is-genre o gerddoriaeth werin Americanaidd yw cerddoriaeth hen ffasiwn[1] (Saesneg: old-time music).
Datblygodd y term Saesneg old-time music yn y 1920au i ddisgrifio traddodiad cerddorol y cymunedau Eingl-Geltaidd yn Ne'r Unol Daleithiau, yn bennaf Mynyddoedd Appalachia. Cymysgedd o gerddoriaeth werin setlwyr Prydain ac Iwerddon gyda dylanwad y sioeau minstrel oedd hwn. Etifeddiaeth y dylanwadau hyn oedd caneuon werin a baledi o Loegr, Iwerddon, Cymru, a'r Alban, a brawddegu a thrawsacennu Affricanaidd-Americanaidd.[2]
Prif offerynnau'r math hwn o gerddoriaeth yw dwlsimer Appalachia, y ffidl a'r banjo. Ar ddiwedd y 19g, o ganlyniad i fasgynhyrchu rhad, daeth y gitâr a'r mandolin yn rhan o'r traddodiad hefyd. Pwrpas cerddoriaeth hen ffasiwn oedd i adlonni a chysuro cymunedau'r De. Cyfeiria'r caneuon at leoedd, crefydd, bywyd diwylliannol, a gwaith yn Appalachia ac ardaloedd cyfagos. Bu perthynas gryf rhwng cerddoriaeth hen ffasiwn a dawnsiau gwerin, megis y ddawns sgwâr.[2]
Ar ddechrau'r 20g dechreuodd y syniad o gerddoriaeth hen ffasiwn fel genre ar wahân i fathau eraill o gerddoriaeth, yn enwedig canu'r felan. Gwnaed recordiadau hen ffasiwn poblogaidd o'r 1920au ymlaen gan Fiddlin' John Carson, y Teulu Carter ac eraill. Gosododd cerddoriaeth hen ffasiwn sail i ganu gwlad ac yn hwyrach canu'r Tir Glas.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 963 [old-time].
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Humphrey, Mark. What is Old-time Music?. oldtimemusic.com. Adalwyd ar 6 Awst 2012.