Americanwyr Affricanaidd
Americanwyr o linach ddu Gorllewin Affricanaidd yw Americanwyr Affricanaidd a elwir hefyd yn Americanwyr Duon neu'n Affro-Americanwyr. Mae eu mwyafrif yn ddisgynyddion i gaethweision o oes caethwasiaeth yr Unol Daleithiau, ond mae eraill yn fewnfudwyr duon o Affrica, y Caribî, Canolbarth America a De America, neu'n ddisgynyddion i fewnfudwyr o'r rhanbarthau hyn. Americanwyr Affricanaidd yw'r categori ethnig mwyaf ond dau yn yr Unol Daleithiau, ar ôl Americanwyr Gwynion ac Americanwyr Latino.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/84/Martin_Luther_King_Jr_NYWTS.jpg/220px-Martin_Luther_King_Jr_NYWTS.jpg)
Mae hanes yr Americanwyr Affricanaidd yn agwedd bwysig o hanes yr Unol Daleithiau, sy'n cynnwys y fasnach gaethweision, eu rhyddfreiniad yn ystod Rhyfel Cartref America, arwahanu hiliol drwy ddeddfau Jim Crow, y Mudiad Hawliau Sifil, ac etholiad Barack Obama yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 2008.