Cerebrwm
Y cerebrwm yw'r darn fwyaf o'r ymennydd. Mae yn rhan flaen yr ymennydd. Mae'n cynnwys tua 15 biliwn o gelloedd, a dyma'r strwythur ymennydd diweddaraf i esblygu.
Enghraifft o'r canlynol | rhanbarth yr ymennydd, math o organ, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | segment of forebrain, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | prosenceffalon |
Yn cynnwys | hemisffer cerebrol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Swyddogaeth
golyguMae'r cerebrwm yn derbyn data o organau golwg a synnwyr eraill, ac yn 'gwneud sens' ohono trwy ei ddehongli. Mae'n rheoli ymwybyddiaeth a gweithgaredd y cyhyrau gwirfoddol. Mae'n cynllunio, ystyried, beirniadu, ac yn trefnu lleferydd a gwybodaeth. Dyma'r 'swyddogaethau meddyliol uwch'.
Strwythur
golyguRhennir y cerebrwm yn ddau hemisffer cerebrol. Mae'r ddau hemisffer cerebrol wedi'u cysylltu gan dri band o ffibrau nerf, neu gomiswr, sy'n cysylltu'r ddwy hanner. Mae haenau allanol y cerebrwm yn cynnwys y mater llwyd, ac fe'i gelwir y cortecs cerebrol. Mae'r haenau mewnol yn cynnwys y mater gwyn (ffibrau nerf), a'r ganglia sylfaenol.
Yn y cerebrwm, mae rhanbarthau penodol ar gyfer pob math o ysgogiad ac ymateb. Er enghraifft, llabed yr ocsipwt yw'r rhanbarth ar gyfer derbyniad gweledol, llabed yr arlais ar gyfer derbyniad clywedol, a llabed barwydol ar gyfer cyffwrdd, arogl, tymheredd a chydgysylltiad ymwybodol. Mae'r llabed blaen yn gweithredu ar sail fewnbwn synhwyraidd a ffactorau eraill.