Cerflun Wicipedia

cerflun yng Ngwlad Pwyl

Lleolir Cerflun Wicipedia, yn Słubice, Gwlad Pwyl; fe'i gwnaed gan Mihran Hakobyan i anrhydeddu defnyddwyr a chyfranwyr i Wicipedia.

Cerflun Wicipedia
Model o'r hyn a fydd yn cael ei ddadorchuddio
ArlunyddMihran Hakobyan
Blwyddyn2014 (2014)
MathCerflun
MeunyddFfeibr, resin
SubjectWicipedia
Maint170 cm × 60 cm × 60 cm (67 mod × 24 mod × 24 mod)
LleoliadSłubice, Gwlad Pwyl

Disgrifiad

golygu

Awgrymwyd y syniad gwreiddiol gan Krzysztof Wojciechowski, athro prifysgol 'Collegium Polonicum w Słubicach' yn Słubice. Dywedodd Wojciechowski, "Dw i'n barod i syrthio ar fy ngliniau o flaen Wicipedia, ac er mwyn cyflawni hynny - mi godaf gerflun!"[1] Cynlluniwyd y deunydd (ffeibr a resin) gan arlunydd o Armenia: Mihran Hakobyan, gynt o goleg Collegium Polonicum.[1][2]

Costiodd y cerflun rhwng 47,000 a 50,000 złotys (oddeutu 12,000 Ewro) a noddwyd y gwaith gan awdurdodau tref Słubice,[1][2] Caiff ei ddadorchuddio ar 22 Hydref 2014.[1] a chredir mai hwn ydy cerflun neu gofgolfn cyntaf i'r gwyddoniadur ar-lein, Wicipedia.[2]

Yn ôl Piotr Łuczynski, Dirprwy Faer y dref, bydd y cerflun yn tynnu sylw at y ffaith ein bod yn ganolfan academig. Bydd cynrychiolwyr o Sefydliad Wikimedia, Wikimedia Polska a Wikimedia Deutchland yn bresennol, sef siaptrau Wicimedia yn y gwledydd hyn.[2][3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Gwlad Pwyl am godi cerflun er anrhydedd i Wicipedia". ABC News. 9 Hydref 2014. Cyrchwyd 9 October 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Gwlad Pwyl i ddadorchuddio'r cerflun (neu gofeb) cyntaf i Wicipedia". Polskie Radio. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-11. Cyrchwyd 9 Hydref 2014.
  3. "Slubice: Polnische Stadt setzt Wikipedia ein Denkmal". Spiegel Online. Cyrchwyd 10 Hydref 2014.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: