Gweriniaeth yn ne Mynyddoedd y Cawcasws yw Gweriniaeth Armenia neu Armenia. Y gwledydd cyfagos yw Twrci i'r gorllewin, Georgia i'r gogledd, Aserbaijan i'r dwyrain ac Iran i'r de-ddwyrain. Yerevan yw'r brifddinas.

Armenia
Hayastani Hanrapetutyun
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasYerevan Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,930,450 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 23 Medi 1991 Edit this on Wikidata
AnthemMer Hayrenik Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethNikol Pashinyan Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Armeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe-orllewin Asia, Dwyrain Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd29,743.423459 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaIran, Twrci, Aserbaijan, Georgia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.38333°N 44.95°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Armenia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Armenia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethVahagn Khachatryan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Armenia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNikol Pashinyan Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$13,861 million, $19,503 million Edit this on Wikidata
ArianDram Armenia Edit this on Wikidata
Canran y diwaith17 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.531 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.759 Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Yn y cyfnod clasurol rhennid tiriogaeth Armenia yn ddwy dalaith gan y Rhufeiniaid, sef Armenia Inferior (neu Armenia Minor) ar arfordir y Môr Du ac Armenia Superior (neu Armenia Major) yn y dwyrain. Bu ymgiprys sawl gwaith am reolaeth ar yr olaf rhwng Rhufain a phŵerau eraill yn y rhanbarth.

O'r 1550au ymlaen, roedd Armenia yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid a Phersia. Cymerodd Rwsia reolaeth dros Ddwyrain Armenia yn 1813 a 1828. Fel cenhedloedd Cristonogol eraill Ymerodraeth yr Otomaniaid, roedd yr Armeniaid yn ddinesyddion eilradd, gan ddioddef gwahaniaethu hiliol. Arweiniai galwadau am hawliau cydraddol o'r 1880au ymlaen at ymateb llym gan yr ymerodraeth a bu mwy nag un cyflafan yn erbyn y boblogaeth Armenaidd yn yr 1890au ac eto yn 1915. Mae Armeniaid a'r rhan fwyaf o haneswyr y tu allan i Dwrci yn tueddu i weld digwyddiadau 1915, pryd bu farw rhwng 650,000 a 1.5 miliwn o bobl, fel ymgais fwriadiol at hil-laddiad. Dehongliad swyddogol y digwyddiadau yn Nhwrci yw bod miloedd o bobl ar y ddwy ochr wedi marw mewn rhyfel cartref, o glefyd ac o newyn.

 
Golygfa ar y brifddinas Yerevan gyda Mynydd Ararat yn y cefndir

Gyda Chwyldro Rwsia yn 1917, daeth Dwyrain Armenia yn annibynnol o Rwsia fel rhan o wladwriaeth ynghyd â Georgia ac Aserbaijan. Ni pharodd y ffederasiwn ond am hanner flwyddyn, a daeth Dwyrain Armenia yn wladwriaeth annibynnol ar 28 Mai 1918. Pan chwalwyd Ymerodraeth yr Otomaniaid ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd y tiriogaethau Armenaidd o fewn yr ymerodraeth â Gweriniaeth Ddemocrataidd Armenia dan un o delerau Cytundeb Sèvres a lofnodwyd ar 10 Awst 1920. Serch hynny, roedd Armenia yn gorfod wynebu rhagor o ryfeloedd. Collodd ryfel â Thwrci yn 1920 (y Rhyfel Dwrco-Armenaidd) ac o dan telerau Cytundeb Alexandropol gorfu iddi ildio'r rhan fwyaf o'i harfau a'i thir i Dwrci. Ar yr un pryd, ymosodwyd arni gan y Fyddin Goch, a arweiniodd at reolaeth Sofietaidd yn rhelyw'r wlad o fis Rhagfyr 1920 ymlaen. Yn 1922, ymgorfforwyd Armenia yn yr Undeb Sofietaidd fel rhan o Weriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Transcausasia (SFSR Transcaucasia), gweriniaeth a barodd tan 1936, pryd daeth Armenia yn weriniaeth ar wahân o fewn yr Undeb Sofietaidd.

Ailenillodd Armenia ei hannibyniaeth gyda chwymp yr Undeb Sofietaidd yn 1991.

Enwogion golygu

Henrikh Mkhitaryan chwareuwr pêl-droed I manchester united yn chwarae i'r Tim pêl-droed yr gwlad .

Hefyd Mae Canwr pop Armenchik yn dod o Armenia .

Mae seren youtube Hikethegamer yn dod o Armenia .

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Armenia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.