Chaim Topol
actor a aned yn Tel Aviv yn 1935
Actor, canwr a darlunydd o Israel oedd Chaim Topol (9 Medi 1935 - 8 Mawrth 2023), hefyd wedi'i sillafu Haym Topol, a elwir fel Topol.[1] Roedd e'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Tevye, y brif ran yn y sioe gerdd lwyfan Fiddler on the Roof ac addasiad ffilm 1971. Perfformio'r rôl hon fwy na 3,500 o weithiau.[1]
Chaim Topol | |
---|---|
Ganwyd | 9 Medi 1935 Tel Aviv |
Bu farw | 8 Mawrth 2023 o clefyd Alzheimer Tel Aviv |
Dinasyddiaeth | Israel |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor llais, darlunydd, arlunydd, llenor, bardd, actor ffilm, canwr, cynhyrchydd ffilm |
Math o lais | bariton |
Priod | Galia Topol |
Plant | Adi Topol |
Gwobr/au | Gwobr Israel, Doethuriaeth Anrhydeddus Prifysgol Haifa, Golden Globe Award for New Star of the Year – Actor, Kinor David, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi |
Cafodd Topol ei eni yn Tel Aviv, yn Balestina Gorfodol (yn awr Israel). Ganed ei dad Jacob Topol yn Rwsia ac ymfudodd i Balestina Gorfodol, lle bu'n gweithio fel plastrwr;[2] bu hefyd yn gwasanaethu yn y sefydliad parafilwrol Haganah.[3] Roedd mam Chaim Topol, Imrela “Rel” (née Goldman) Topol, yn wniadwraig.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Slater, Robert (6 Chwefror 2013). "One More Fiddle for the Road". The Jerusalem Post. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2017.
- ↑ 2.0 2.1 "Topol Film Reference biography". Filmreference.com. Cyrchwyd 29 Medi 2010.
- ↑ Margit, Maya (1 Mai 2017). "EXCLUSIVE: Fiddler on the Roof's Chaim Topol and his memories of Israeli independence". i24news (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Tachwedd 2017.