Chaparral
Fforest o dderw fythwyrdd a phrysgwydd yw chaparral (o'r Sbaeneg chaparra, "derwen fythwyrdd").
Math o gyfrwng | ffurfiant tyfiannol |
---|---|
Math | prysgoed |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe fydd chaparral yn dirlun cyffredin mewn ardaloedd gyda hinsawdd y Canoldir.
Taniad mellten
golyguAmbell waith fe fydd mellt yn curo'r chaparral ac yn achosi tân fforest. Mae llawer o ymryson dros y ffenomen hwn. Fe fydd rhai yn dadlau bod y tân yn dinistrio'r fforestydd ac eraill yn dadlau bod tân gwirfoddol yn ddigwyddiad hollol naturiol sy'n achosi ailenedigaeth y fforestydd. Fe fydd y prysgwydd yn llosgu'n llwyr nes bod dim ond boncyffion duon y coed ar ôl, heb ddim canghennau na dail, ond ymhen rhyw ddwy flynedd fe fydd blodau gwyllt ymhob man a blagur yn ymddangos ar y coed unwaith eto. Un peth sy'n sicr; mae pawb yn gytun fod llosgi bwriadol (arson) neu taniad drwy esgeuluster (tân gwersyll / sigaret) ddim yn naturiol. Fe fydd hwn yn achos llawer o ddistryw a marwolaeth bob blwyddyn.
Llosgiad dan rheolaeth
golyguRoedd y Frigâd Dân yn arfer ymlâdd i diffodd y tân bob tro, ond y mwy oeddynt yn ei ddiffodd, y mwy oedd y prysgwydd yn tyfu, y mwy aml oedd y tânau, a mwy oedd y tanllwythi. Fe fydd tanllwythi mawr yn dinistrio'r coed wrth losgu'r boncyffion a'r gwreiddiau. Fe fydd tanllwythi mawr yn dinistrio eiddo ac yn achosi marwolaeth hefyd. Roedd rhaid cydsynio gyda natur a chael polisi o losgiad dan rheolaeth. Mae perchnogion tai ger y fforest yn gyfrifol am glirio'r prysgwydd, torri'r gwair a thocio'r coed o amgylch y tŷ hefyd.