Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times

Casgliad o draethodau ar amryw bynciau gan yr athronydd Seisnig Anthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury yw Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol ym 1711.

Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times
Arwyddlun a engrafwyd ar gyfer wynebddalen Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times, yn ôl cyfarwyddiadau'r awdur.
Enghraifft o'r canlynolgwaith creadigol Edit this on Wikidata
AwdurAnthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1711 Edit this on Wikidata
Genreathroniaeth Edit this on Wikidata

Mae'r casgliad yn cynnwys pump ysgrif a gyhoeddwyd o'r blaen, wedi eu hadolygu—"A letter concerning enthusiasm to my Lord *****" (ysgrifennwyd 1707, argraffwyd 1708), "Sensus communis" (1709), "Soliloquy, or advice to an author" (1710), "An inquiry concerning virtue or merit" (1699) a "The moralists" (1709)—gydag ychwanegiadau, mewn pum rhan, dan yr enw "Miscellaneous reflections".[1] Bu'n hynod o boblogaidd ymhlith darllenwyr yng Ngwledydd Prydain ac ar gyfandir Ewrop trwy gydol y 18g, a chafodd ei ystyried yn un o brif gyfraniadau Lloegr at athroniaeth yr Oleuedigaeth. Er bod ysgrifeniadau Shaftesbury wedi colli ffafr ym maes athroniaeth yn y ddwy ganrif ddiwethaf, mae'r Characteristicks o hyd yn ffynhonnell bwysig i ysgolheigion am hanes crefydd ac anghrefydd, moeseg, estheteg, y ddisgwrs wleidyddol, y celfyddydau, garddio, a rhywedd yn Lloegr yn nechrau'r 18g.

Mewn cyflwyniad i argraffiad un-gyfrol Cambridge University Press o'r Characteristicks, ysgrifennai'r golygydd Lawrence E. Klein ei fod yn cynnwys "asesiad optimistaidd o gosmos trefnus, hyder mewn cymdeithasgarwch a chydymdeimlad dynol, cysoni profiad moesegol ac esthetaidd, pwysleisiadau ar ryddid a goddefiad, ac ymroddiad i rôl athroniaeth mewn addysgu'r ddynolryw".[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Thomas Fowler, Shaftesbury and Hutcheson (Llundain: Sampson Low, Marston, Searle, & Rivington, 1882), tt. 30–1.
  2. Lawrence E. Klein (gol.), Anthony Ashley Cooper, Third Earl of Shaftesbury: Characteristics of Men, Manners, Opinions, Times (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2000), t. vii