Anthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury

ysgrifennwr, gwleidydd, athronydd (1671-1713)

Gwleidydd o Sais ac athronydd yng nghyfnod yr Oleuedigaeth oedd Anthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury (26 Chwefror 167115 Chwefror 1713) sydd yn nodedig fel un o ddeistiaid blaenaf y 18g ac am ei athroniaeth foesol.

Anthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury
Engrafiad o Iarll Shaftesbury gan Simon Gribelin (tua 1702–11) o bumed argraffiad Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times (1732).
Ganwyd26 Chwefror 1671 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 1713 Edit this on Wikidata
Napoli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Caerwynt Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, ysgrifennwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1695-98 Parliament Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadCambridge Platonists, Damaris Cudworth Masham, John Locke Edit this on Wikidata
TadAnthony Ashley-Cooper Edit this on Wikidata
MamDorothy Ashley-Cooper Edit this on Wikidata
PriodJane Ewer Edit this on Wikidata
PlantAnthony Ashley-Cooper Edit this on Wikidata

Ganed yn Exeter House yn y Strand, Llundain. yn fab i Anthony Ashley-Cooper (yn ddiweddarach 2il Iarll Shaftesbury) a Dorothy Manners, merch Iarll Rutland. Ar gais ei dad-cu, Iarll 1af Shaftesbury, derbyniodd ei addysg gynnar dan gyfarwyddyd John Locke. Cyflogwyd athrawes o'r enw Elizabeth Birch gan Locke i diwtora Anthony, ac erbyn 12 oed roedd yn gallu darllen yr ieithoedd Lladin a Groeg yn hawdd. Wedi marwolaeth Iarll 1af Shaftesbury, mynychodd Anthony Goleg Caerwynt, ac yno cafodd ei fwlio, o bosib oherwydd taliadau Chwigaidd ei ddiweddar tad-cu. Wedi tair blynedd yn yr ysgol, llwyddodd i ddwyn perswâd ar ei dad i adael iddo deithio, ac aeth ar grwydr yn Ewrop gyda'i diwtoriaid a dau gyfaill o 1686 i 1689.[1]

Wedi iddo ddychwelyd i Loegr, cynigwyd iddo sedd yn Senedd Lloegr, ond daliodd at ei astudiaethau am y tro. Etholwyd yn Aelod Seneddol i'r Chwigiaid ym 1695, ac yn ei swydd dadleuodd dros achos rhyddid ac hawliau'r cyhuddiedig. O ganlyniad i'w asthma, a waethygwyd gan yr hinsawdd Lundeinig, ymddiswyddodd o'i sedd ym 1698 ac aeth i Holand am sawl mis. Yn sgil marwolaeth ei dad ym 1699, etifeddodd yr iarllaeth ac esgynnodd Shaftesbury i Dŷ'r Arglwyddi. Cynigwyd iddo swydd Ysgrifennydd y Wladwriaeth gan y Brenin Wiliam III, ond eto bu'n rhaid i Shaftesbury wrthod oherwydd ei afiechyd. Yr unig safle swyddogol iddo ddal oedd Is-lyngesydd Swydd Dorset,[1] ond collodd y swydd honno wedi i'r Frenhines Ann esgyn i'r orsedd ac ymddeolodd Shaftesbury o fyd gwleidyddiaeth yng Ngorffennaf 1702.[2]

Ymroddai Shaftesbury i'w astudiaethau, er gwaethaf ei afiechyd, a chynhyrchai ysgrifau ar amryw bynciau dros gyfnod o ddeuddeng mlynedd wedi iddo etifeddu teitl ei dad. Ymhlith y rheiny mae "An Inquiry concerning Virtue or Merit" (1699), "A Letter concerning Enthusiasm" (1708), "Sensus Communis, an Essay on the Freedom of Wit and Humour" (1709), "The Moralists, a Philosophical Rhapsody" (1709), a "Soliloquy, or Advice to an Author" (1710). Cesglid ei draethodau mewn tair cyfrol dan y teitl Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times ym 1711, gyda chyflwyniad gan yr awdur.

Priododd Shaftesbury â Jane Ewer ym 1709, a chawsant un mab ym 1711. Gadawodd Loegr ym 1711 i geisio gwella'i iechyd mewn gwlad dymherus. Ymsefydlodd Shaftesbury yn Napoli, Teyrnas Napoli, ac yno bu farw yn 41 oed.[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "3d Earl Of Shaftesbury", Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 6 Mawrth 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Anthony Ashley Cooper, 3rd Earl of Shaftesbury. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Mawrth 2021.