Charlaine Harris
Awdur Americanaidd a Swedaidd yw Charlaine Harris (ganwyd 25 Tachwedd 1951) sy'n arbenigo mewn nofelau dirgelwch.[1] Mae'n fwyaf adnabyddus am addasiadau teledu o'i chyfres The Southern Vampire Series, a ailenwyd yn True Blood. Roedd y sioe deledu yn llwyddiant yn ariannol ac o ran yr adolygiadau, gan redeg am saith tymor, rhwng 2008 a 2014. Mae nifer o'i llyfrau wedi bod yn llyfrau poblogaidd a chyfieithwyd y gyfres hon i sawl iaith a'i chyhoeddi ledled y byd.
Charlaine Harris | |
---|---|
Ffugenw | Charlaine Harris |
Ganwyd | 25 Tachwedd 1951 Tunica |
Man preswyl | Magnolia, Texas |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, bardd, awdur testun am drosedd, cynhyrchydd ffilm, actor, awdur storiau byrion, sgriptiwr, gweithredydd camera, karateka |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Southern Vampire Mysteries, Dead Until Dark |
Gwobr/au | Gwobr Agatha, Gwobr Anthony, Gwobr Anthony, Gwobr Inkpot, The Grand Master |
Gwefan | http://www.charlaineharris.com/ |
Chwaraeon |
Bywyd personol
golyguFe'i ganed yn Tunica yn ardal delta neu aber y Mississippi, yn yr Unol Daleithiau. Mae hi bellach yn byw yn Texas gyda'i gŵr lle mae ganddyn nhw dri o blant ac wyrion sydd wedi tyfu.[1] Dechreuodd ysgrifennu o oedran ifanc, a newidiodd o ysgrifennu dramâu yn y coleg i ysgrifennu a chyhoeddi nofelau dirgelwch, gan gynnwys sawl cyfres hir a gwahanol sy'n cynnwys yr un cymeriadau.
Yn ei bywyd personol, mae Harris wedi bod yn briod gyda thri o blant. Mae hi'n gyn-fyfyriwr codi pwysau a karate, ac mae hi hefyd yn ddarllenydd brwd ac yn ,ymychu'r sinema yn aml. Roedd Harris gynt yn byw ym Magnolia, Arkansas, lle roedd hi'n uwch warden Eglwys Esgobol St. James, ac ar hyn o bryd mae'n byw yn Texas.[4][5][6][7]
Yr awdur
golyguYn ei gwaith cynnar ysgrifennodd gerddi am ysbrydion ac ing pobl ifanc yn eu harddegau. Dechreuodd ysgrifennu dramâu yng Ngholeg Rhodes ym Memphis, Tennessee. Mae ei nofelau dirgelwch diweddaraf wedi bod yn y genre a elwir yn "ffantasi trefol" (urban fantasy). Ar ôl cyhoeddi dwy nofel dirgelwch annibynnol, cychwynnodd Harris lyfrau ysgafn Aurora Teagarden gyda Real Murders, a enwebwyd yn Nofel Orau 1990 ar gyfer Gwobrau Agatha.
Llyfryddiaeth
golyguCyfres yr Aurora Teagarden (1990 - Presennol)
golygu- 1 Real Murders (1990) ISBN 0-8027-5769-3.
- 2 A Bone to Pick (1992) ISBN 0-8027-1245-2
- 3 Three Bedrooms, One Corpse (1994) ISBN 0-684-19643-3
- 4 The Julius House (1995) ISBN 0-684-19640-9
- 5 Dead Over Heels (1996) ISBN 0-684-80429-8
- 5.1 Deeply Dead in Murder, They Wrote
- 6 A Fool And His Honey (1999) ISBN 0-312-20306-3
- 7 Last Scene Alive (2002) ISBN 0-312-26246-9
- 8 Poppy Done to Death (2003) ISBN 0-312-27764-4
- 9 All the Little Liars (2016) ISBN 1250090032
- 10 Sleep Like a Baby (2017) ISBN 978-1-250-09006-5
Cyfres Lily Bard (Shakespeare) (1996 - 2001)
golygu- 1 Shakespeare's Landlord (1996) ISBN 0-312-14415-6
- 2 Shakespeare's Champion (1997) ISBN 0-312-17005-X
- 3 Shakespeare's Christmas (1998) ISBN 0-312-19330-0
- 4 Shakespeare's Trollop (2000) ISBN 0-312-26228-0
- 5 Shakespeare's Counselor (2001) 0-312-27762-8
- 5.1 Dead Giveaway a gyhoeddwyd yn Ellery Queen's Mystery Magazine (Rhagfyr 2001)
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Harris, Charlaine. "Charlaine Harris: oBiography". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Hydref 2012. Cyrchwyd 7 Hydref 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Galwedigaeth: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019.
- ↑ Anrhydeddau: http://www.bouchercon.com/anthony-awards/winners-and-nominees/2000s/. http://www.bouchercon.com/anthony-awards/winners-and-nominees/. https://www.comic-con.org/awards/inkpot. dyddiad cyrchiad: 27 Gorffennaf 2021. https://edgarawards.com/category-list-the-grand-master/.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2018. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 12 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. https://www.noosfere.org/livres/auteur.asp?numauteur=-40791&Niveau=bio. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. "Charlaine Harris". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019.
- ↑ Man geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. https://www.noosfere.org/livres/auteur.asp?numauteur=-40791&Niveau=bio. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019. Goodreads. dyddiad cyrchiad: 28 Medi 2019.
- ↑ http://www.bouchercon.com/anthony-awards/winners-and-nominees/2000s/.
- ↑ http://www.bouchercon.com/anthony-awards/winners-and-nominees/.
- ↑ https://www.comic-con.org/awards/inkpot. dyddiad cyrchiad: 27 Gorffennaf 2021.
- ↑ https://edgarawards.com/category-list-the-grand-master/.