Sweden

gwlad yng ngogledd Ewrop

Un o wledydd Llychlyn, yng ngogledd Ewrop, yw Teyrnas Sweden neu Sweden (Swedeg, Sverige). Er ei bod yn un o wledydd mwyaf Ewrop o ran arwynebedd, yn mesur 450,000 cilometr sgwâr, mae'r boblogaeth yn gymharol isel ac wedi ei chrynhoi yn y trefi a'r dinasoedd ar y cyfan. Stockholm yw'r brifddinas.

Sweden
Konungariket Sverige
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSwediaid Edit this on Wikidata
PrifddinasStockholm Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,582,576 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 700s Edit this on Wikidata
AnthemDu gamla, du fria Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethUlf Kristersson Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Swedeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGwledydd Nordig, Llychlyn, yr Undeb Ewropeaidd, Gogledd Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd447,425.16 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Baltig, Kattegat, Øresund Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaY Ffindir, Norwy, Denmarc Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau61°N 15°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Sweden Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Sweden Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Sweden Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethCarl XVI Gustaf o Sweden Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Sweden Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethUlf Kristersson Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$636,856 million, $585,939 million Edit this on Wikidata
Ariankrona Edit this on Wikidata
Canran y diwaith8.4 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.57 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.947 Edit this on Wikidata

Daearyddiaeth

golygu
 
Sweden

Sweden yw'r fwyaf o wledydd Llychlyn yng ngogledd-orllewin Ewrop. Mae'n ffinio ar Norwy yn y gorllewin ac ar y Ffindir yn y dwyrain. Yn y de-orllewin, mae culforoedd y Kattegat a'r Skagerrak yn ei gwahanu oddi wrth Denmarc.

Mae llawer o dde a dwyrain Sweden yn dir cymharol isel, ond mae'r gorllewin yn fynyddig, yn enwedig o gwmpas y ffin â Norwy. Y copa uchaf yw Kebnekaise, 2,111 medr uwch lefel y môr. Gorchuddir tua 78% o'r wlad gan fforestydd, ac mae gan y wlad tua 95,700 o lynnoedd; y mwyaf o'r rhain yw Llyn Vänern a Llyn Vättern. Llyn Vänern yw'r trydydd fwyaf yn Ewrop. Mae gan Sweden nifer o ynysoedd; y ddwy fwyaf yw Gotland ac Öland yn y Môr Baltig.

Dinasoedd a threfi mwyaf Sweden yw:

  1. Stockholm 1,252,020
  2. Göteborg 510,491
  3. Malmö 258,020
  4. Uppsala 128,409
  5. Västerås 107,005

Cododd Sweden gyfoes o'r Undeb Kalmar a ffurfiwyd yn 1397 ac o uno'r wlad gan y brenin Gustav Vasa yn yr 16g. Yn yr 17eg ganrif, ymledaenodd Sweden ei thiriogaethau i ffurfio'r Ymerodraeth Swedaidd. Yn y 18g, bu rhaid i Sweden ildio'r rhan fwyaf o'r tiriogaethau yr oedd wedi eu goresgyn. Collwyd y Ffindir a'r tiriogaethau a oedd yn weddill tu allan i benrhyn Llychlyn yn gynnar yn y 19g. Yn dilyn diwedd y rhyfel olaf rhyngddynt yn 1814, daeth Sweden yn rhan o undeb gyda Norwy a barhaodd hyd 1905. Ers 1814, mae Sweden wedi bod yn wlad heddychlon gan fabwysiadu bolisi tramor o niwtraliaeth yn ystod cyfnodau o heddwch a rhyfel.

Gwleidyddiaeth

golygu

Diwylliant yn Sweden modern

golygu