Charlestown, Cernyw
pentref yng Nghernyw
Pentref a phorthladd yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, ydy Charlestown[1] (Cernyweg: Porthmeur West).[2] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil St Austell Bay. Saif tua 2 miltir (3 km) i'r de-ddwyrain o dref St Austell.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw |
Gwlad | Cernyw Lloegr |
Cyfesurynnau | 50.3314°N 4.7578°W |
Cod OS | SX037516 |
Cod post | PL25 |
Datblygwyd y porthladd o bentref pysgota bach o'r enw West Polmear gan y tirfeddiannwr lleol, Charles Rashleigh (m. 1823). Dechreuwyd adeiladu yn 1791. Roedd hyn yn cynnwys pier, doc a batri gynnau; moderneiddiwyd y pentref hefyd. Bwriad y porthladd oedd hwyluso allforio copr o'r mwyngloddiau cyfagos. Yn 1799 ailenwyd y lle yn "Charles Town" er anrhydedd i Rashleigh.
-
Y porthladd
-
Eglwys Sant Paul
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Mawrth 2021
- ↑ Maga Cornish Place Names Archifwyd 2017-06-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 21 Mawrth 2021