Chebba
Tref yn nhalaith Mahdia, Tiwnisia yw Chebba. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Canoldir tua 30 km i'r de o ddinas Mahdia a thua 80 km i'r gogledd o Sfax. Roedd 19,883 o bobl yn byw yno yn 2004.[1]
Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Poblogaeth | 24,515 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Mahdia |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 35.2372°N 11.115°E |
Cod post | 5170 |
Hanes
golyguGer La Chebba, ar bentir Ras Kaboudia, ceir adfeilion ribat (caer neu gastell) Bordj Kjadidja, a adeiladwyd ar sylfeini o gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd. Roedd yn rhan o gadwyn o gaerau a godwyd gan yr Abbasiaid ar hyd arfordir Sahel Tiwnisia yn yr 8g OC. Codwyd y gaer Fysantaidd i amddiffyn tref hynafol Caput Vada; glaniodd y cadfridog Bysantaidd Belisarius yno yn 533 OC ar gychwyn ei ymgyrch llwyddiannus yn erbyn y Fandaliaid. Ailenwyd y dref yn Justinianopolis gan y Bysantiaid.
Ceir brithluniau (mosaics) Rhufeinig o Caput Vada yn Amgueddfa'r Bardo yn Nhiwnis.
Bu protestiadau yn erbyn llywodraeth Zine Ben Ali yn Chebba yn ystod intifada Tiwnisia.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cyfrifiad 2004". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-01-04.
- ↑ "A protester dies after being shot by police, as activists criticise government repression of protests", Al Jazeera 31 Rhag. 2010