Fandaliaid
Roedd y Fandaliaid yn llwyth Almaenig, yn wreiddiol o'r ardaloedd sydd nawr yn nwyrain Yr Almaen. Roeddynt yn ffurfio dau grŵp llwythol, y Silingi a'r Hasdingi. Yn yr 2g symudodd yr Hasdingi tua'r de ac ymosod ar yr Ymerodraeth Rufeinig dan eu brenhinoedd Raus a Rapt. Tua 271 roedd yr ymerawdwr Aurelian yn gwarchod ffîn Afon Donaw yn eu herbyn. Wedi gwneud cytundeb heddwch, caniataodd iddynt ymsefydlu yn Dacia.
Enghraifft o'r canlynol | gwareiddiad, grwp ethnig hanesyddol |
---|---|
Math | East Germanic tribes |
Daeth i ben | 6 g |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ôl Jordanes, daeth yr Hasdingi i wrthdrawiad a'r Gothiaid ac wedi i'w brenin Visimar gael ei ladd, symudasant i Pannonia, lle rhoddodd Cystennin Fawr diroedd iddynt. Trwy'r ymerawdwr Valens (364–78) daeth y Fandaliaid yn Gristionogion Ariaidd.
Yn 406 symudodd y Fandaliaid tua'r gorllewin o Pannonia, ond oddeutu Afon Rhein daethant i wrthrawiad a'r Ffranciaid. Lladdwyd tua ugain mil o Fandaliaid, yn cynnwys eu brenin Godigisel, mewn brwydr, ond yna cawsant gymorth yr Alaniaid i orchfygu'r Ffranciaid. Ar 31 Rhagfyr, 406 yr oedd Afon Rhein wedi rhewi, gan eu galluogi i groesi ac anrheithio Gâl. Erbyn Hydref 409 roeddynt wedi cyrraedd Sbaen, lle cawsant diroedd gan y Rhufeiniaid fel cyfundebwyr (foederati).
Yn 427 daeth Geiseric, efallai y mwyaf o frenhinoedd y Fandaliaid, i'r orsedd. Yn 429 cymerodd fantais o anghydfod yn yr Ymerodraeth Rufeinig i groesi i Ogledd Affrica gyda 80,000 o wŷr. Gosodasanr warchae ar ddinas Hippo Regius, lle bu Sant Awstin farw yn Awst 430 yn ystod y gwarchae. Gwnaed heddwch a'r Rhufeiniaid am gyfnod, ond yn 439 cipiodd Geiseric ddinas Carthago. Tyfodd Teyrnas y Fandaliaid a'r Alaniaid yn deyrnas gref gan Geiseric. Yn 455 cipiwyd dinas Rhufain ganddynt. Dywedir i'r Pab Leo Fawr gyfarfod Geiseric tu allan i'r ddinas a'i berswadio i beidio niweidio'r trigolion, ond anrheithiwyd y ddinas. Bu farw Geiseric ar 25 Ionawr 477 a dilynwyd ef gan ei fab Huneric.
Yn 533 ymosododd yr Ymerodraeth Fysantaidd ar y Fandaliaid, a gorchfygwyd hwy gan y cadfridog Bysantaidd Belisarius ym Mrwydr Ad Decimium ac eto ym Mrwydr Ticameron. Ildiodd y brenin Fandalaidd Gelimer i Belisarius yn 534 a daeth Teyrnas y Fandaliaid i ben.