Chemins de fer de Provence

Mae trên bach yn rhedeg 151 km (94 o filltiroedd) rhwng Nice a Digne-les-Bains ers 1911, drwy fynyddoedd cefnwlad Nice a chefn gwlad Provence. Mae yna wasanaeth cyson rhwng Nice a Digne. Ambell waith fe fydd trên ager yn rhedeg ar y lein. Enw'r trên yw "Le train des pignes" (trên y pin) gan ei fod yn llosgi pin wedi eu casglu gerllaw y lein (yn lle glo). Roedd cangen arall o'r lein yn croesi afon y Var ger bentref La Manda a mynd drwy Vence hyd at Grasse ond fe gafodd y bont fawr ym mhentref Pont-du-Loup ei fomio yn 1945 gan y fyddin Almaenaidd pan oedden nhw'n ffoi. Mae colofnau'r bont yno o hyd, yn sefyll yn uchel uwchben y pentref.

Chemins de fer de Provence
Enghraifft o'r canlynolcwmni rheilffordd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1885 Edit this on Wikidata
Lled y cledrau1000 mm track gauge Edit this on Wikidata
RhagflaenyddQ2989951 Edit this on Wikidata
Hyd151 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
"Le train des pignes" yng ngorsaf Annot
Y trên bach ger bont La Manda. (Uwchben - pentref Carros ar ben y bryn. Ar y dde - eira ar fynyddoedd y Mercantour)
Gweddillion y bont fawr uwchben ffatri melysion Pont-du-Loup.

Dolen allanol golygu