Tsic deurywiol

(Ailgyfeiriad o Chic deurywiol)

Ymadrodd sy'n disgrifio deurywioldeb yw tsic neu chic deurywiol. Un ddefnydd ohono yw i ddisgrifio cynnydd mewn diddordeb cyhoeddus yn neurywioldeb, neu gynnydd yn nerbyniad cyhoeddus o ddeurywioldeb. Gan amlaf cysylltir y defnydd hwn ag unigolyn enwog yn dod allan yn ddeurywiol neu gael ei labelu'n ddeurywiol, neu â chyfeiriad proffil-uchel i ddeurywioldeb yn niwylliant poblogaidd, megis erthygl flaen cylchgrawn. Mae'r prif ddefnydd arall yn disgrifio sylw ffadaidd tuag at ddeurywioldeb. Mae'r defnydd hwn hefyd yn gyfyngedig, gan ei fod yn methu i roi syniad perthnasol o beth mae'n golygu i fod yn ddeurywiol, i roi cyd-destun o gyfreithlondeb deurywioldeb fel cyfeiriadedd, ac hyd yn oed cyfleu dealltwriaeth lawn o ddeurywioldeb.[1]

Ymddangosodd yr ymadrodd yn y 1970au, ar ddiwedd mudiad y hipis oedd yn moli cariad rhydd. Yn y cyfnod hwn gwelwyd ymddangosiad roc glam a cherddorion a chanwyr Prydeinig megis Elton John a David Bowie. Yn 1980, disgrifiwyd Ziggy Stardust, persona Bowie, gan gylchgrawn Time fel "the orange-haired founder of bisexual chic".[2] Ymddangosodd hwrdd o frwdfrydedd, wedi'i gychwyn gan y cyfryngau, ynghylch tsic deurywiol, wedi'i ganolbwyntio ar yr olygfa glybiau ac ymysg enwogion megis Elton John, David Bowie a Patti Smith.[3] Ar yr un pryd, ffurfiodd grwpiau deurywiol mewn nifer o ddinasoedd mawrion yr Unol Daleithiau, a dechreuodd y mudiad rhyddhad a hawliau sifil deurywiol modern.[4]

Gall yr ymadrodd gael ei ddefnyddio i awgrymu bod rhywun dim ond yn esgus i fod yn ddeurywiol gan ei fod yn ffasiynol ar y pryd.[5] Ond gall hefyd gael ei ddefnyddio i haeru bod rhywun yn rhywiol arbrofol, heb unrhyw dabŵs, yn gyfarwydd ag agweddau ill dau gwrywaidd a benywaidd ei hunan, ac felly'n botensial yn garwr neu hyd yn oed person gwell.[6]

Mae aelodau'r gymuned ddeurywiol, er gan amlaf o blaid amlygrwydd deurywiol, yn gweld tsic deurywiol fel ffurf anffurfiol o ddeurywioldeb sydd, er yn ddefnyddiol o bosib, yn gwneud yn fach o faterion iechyd a chyfeiriadedd rhywiol, yn ogystal ag hunanbenderfyniaeth a gwleidyddiaeth hunaniaeth.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Luscombe, Richard (4 Ionawr, 2004). US girls embrace gay passion fashion. The Observer. Guardian Unlimited. Adalwyd ar 4 Rhagfyr, 2007.
  2. (Saesneg) Monday, Aug. 04, 1980. Time (4 Awst, 1980). Adalwyd ar 16 Rhagfyr, 2007.
  3. Rust, Paula Claire. Bisexuality in the United States: A Social Science Reader (2000), tud. 538
  4. (Saesneg) A Brief History of the Bisexual Movement. BiNet USA. Adalwyd ar 16 Rhagfyr, 2007.
  5. (Saesneg) Paul, Jay P.. San Francisco's Bisexual Center and the Emergence of a Bisexual Movement. Bisexualities - The Ideology and Practice of Sexual Contact with both Men and Women. Adalwyd ar 16 Rhagfyr, 2007.
  6. Julius, Jill. Sex in Public: Austrialian Sexual Cultures (Matthews, 1997), tud. 75

Darllen pellach

golygu
  • Beemyn, Brett & Erich Steinman. Bisexual Men in Culture and Society (Binghamton, NY: Haworth Press, 2001).
  • "The New Bisexuals Archifwyd 2008-12-22 yn y Peiriant Wayback" Time, 13 Mai, 1974.
  • Reichert, Tom, Kevin R. Maly & Susan C. Zavoina. "Designed for (Male) Pleasure: The Myth of Lesbian Chic in Mainstream Advertising." Meta Carstarphen & Susan C. Zavoina (gol.), Sexual Rhetoric: Media Perspectives on Sexuality, Gender, and Identity (Westport, CT: Greenwood Press, 1999).
  • Risman, Barbara & Pepper Schwartz. "After the Sexual Revolution: Gender Politics in Teen Dating," Contexts (Berkeley: U California Press, 2002).