Awdur a golygydd Americanaidd yw Chris Cope (ganwyd 20 Mawrth 1976), sydd wedi dysgu'r Gymraeg a symud i fyw i Gymru.[1]

Chris Cope
Geni James Christian Cope
(1976-03-20) 20 Mawrth 1976 (48 oed)
Austin, Texas
Galwedigaeth Awdur
Cenedligrwydd Baner UDA UDA
Ethnigrwydd Gwyddelig[angen ffynhonnell]
Cymar Jenn
Gwefan swyddogol

Bywgraffiad

golygu

Mae Cope yn hanu o Austin, Texas yn wreiddiol, a threuliodd gyfnod yn byw yn St Paul, Minnesota[2] a bu'n gweithio fel golygydd copi ar gyfer teledu a radio yn yr Unol Daleithiau. Wedi treulio gwyliau yng Nghymru, penderfynodd Cope ddysgu Cymraeg.[3] Dechreuodd ddysgu'r iaith drwy ddefnyddio gwefan Learn Welsh y BBC yn 2000. Yn 2006, symudodd i Gaerdydd gyda'r wraig Rachel i fynychu Prifysgol Caerdydd, lle enillodd BA yn y Gymraeg yn 2009 ac MA wedyn yn 2011.[4]

Gadawodd ei wraig Rachel ef ym mis Medi 2009, digwyddiad a barodd cyfnod hir o iselder ynddo. Mae'n byw ym Mhenarth erbyn hyn gyda'i gariad, Jenn.

Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf Cwrw am Ddim: A Rhesymau Eraill Dros Ddysgu'r Iaith ym mis Gorffennaf 2009 gan Wasg Gomer. Mae'n golofnydd rheolaidd yng nghylchgrawn Barn. Nofel yn Saesneg yw ei ail lyfr, The Way Forward, a gyhoeddwyd yn 2010. Cyhoeddwyd ym mis Ebrill 2012 bod Chris i gael ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru ar gyfer gwaith ar ei drydydd llyfr Tales of a Toffee-Covered Llama.[5]

Llyfryddiaeth

golygu

  • Chris Cope (Medi 2010). The Way Forward. Caerdydd: KDP

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Cylchgrawn: Llyfrau: Chris Cope - adolygiad o Cwrw am Ddim. BBC Cymru (22 Awst 2009).
  2.  Cylchgrawn: Llyfrau: Chris Cope: yn ateb ein holiadur. BBC Cymru (21 Awst 2009).
  3.  Mentro o Minnesota!. Cardiff University Magazine (Gwanwyn 2006).
  4.  Uni place for USA Welsh learner. BBC (8 Chwefror 2006). (Saesneg)
  5.  Ysgoloriaethau i 21 o awduron. BBC Cymru (10 Ebrill 2012). Adalwyd ar 9 Mai 2012.

Dolenni allanol

golygu