Digrifwr a chyflwynwr teledu a radio Cymreig ydy Chris Corcoran (ganwyd 1972).

Chris Corcoran
Ganwyd10 Ebrill 1972 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr Edit this on Wikidata

Mae wedi cyflwyno darllediad Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar BBC Wales, ac ymddangosodd ar "Big Welsh Joke", "Little Welsh Joke" a The Full Pontyfringe. Mae'n ymddangos yn gyson ar BBC Radio Wales, ac yn aml gyda'i ffrind Rhod Gilbert, sy'n rhannu tŷ gydag ef, ar ei sioe ar foreau Sadwrn. Mae'n adnabyddus i wylwyr teledu ifanc am ei waith ar raglen CBeebies, Doodle Do, a darparodd lais Miss Bunny ar raglen Nelly Nut CBBC. Cyd-ysgrifennodd gyfres radio Those That CaGn't, gyda'r digrifwr Greg Davies, yn seiliedig ar ei brofiadau fel athro.

Mae ei gomedi yn tueddu i ganolbwyntio ar bynciau Cymreig, teitl ei sioe unigol yng ngŵyl Fringe, Caeredin oedd Welsh Assembly.

Bu'n ymddangos yn reolaidd mewn pantomeimiau ym Mhorthcawl.

Cyhoeddir ei lyfr Random Thoughts yng nghyfres Stori Sydyn, gan Accent Press ym mis Mawrth 2010 (ISBN 9781907016387).


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.