BBC Cymru

(Ailgyfeiriad o BBC Wales)

Adran neu ranbarth cenedlaethol o'r BBC ar gyfer Cymru yw BBC Cymru Wales (BBC Cymru ar lafar ac yn gyffredinol yn Gymraeg). Gyda Pencadlys BBC Cymru yng nghanol Caerdydd, mae'n cyflogi dros 1200 o bobl ac yn cynhyrchu ystod eang o raglenni teledu a radio a gwasanaethau ar-lein yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ceir dwy sianel deledu Saesneg, sef BBC One Wales a BBC Two Wales, a dau wasanaeth radio cenedlaethol, sef BBC Radio Cymru yn Gymraeg a BBC Radio Wales yn Saesneg.

BBC Cymru Wales
Gorsafoedd teleduBBC One Wales
BBC Two Wales
Trosglwyddyddion teleduBlaenplwyf
Carmel
Llanddona
Moel-y-Parc
Preseli
Gwenfô
Gorsafoedd radioBBC Radio Wales
BBC Radio Cymru
PencadlysPencadlys BBC Cymru, Caerdydd
ArdalCymru
Pobl allweddol
Rhodri Talfan Davies (Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales)
Dyddiad lansio
9 Chwefror 1964; 60 o flynyddoedd yn ôl (1964-02-09)
Gwefan swyddogol
bbc.co.uk/cymru

Gwasanaethau Cymraeg

golygu

BBC Cymru sy'n gyfrifol am gynhyrchu rhaglenni Newyddion S4C a'r gyfres sebon boblogaidd Pobol y Cwm. Mae hefyd wedi cyd-gomisiynu nifer o ddramau gyda S4C, gyda fersiynau Cymraeg a Saesneg i'w dangos ar S4C a sianeli'r BBC.

BBC Radio Cymru yw'r gwasanaeth radio cenedlaethol Cymraeg. Fe'i crewyd yn 1977 a dilynodd Radio Cymru 2 yn 2018.

Yn ogystal mae gan BBC Cymru nifer o dudalennau ar wefan y BBC, yn Gymraeg a Saesneg. Yng ngaeaf 2013 lansiwyd Cymru Fyw sef gwefan newydd gydag elfen o "blog byw". Roedd hefyd yn cynnwys elfennau o newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig ynghyd ag eitemau am y celfyddydau, diwylliant poblogaidd a gwasanaethau eraill. Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales mai bwriad y datblygiad yw ehangu apêl a chyrhaeddiad gwasanaethau Cymraeg ar-lein: "Mae'n rhaid i wasanaethau ar-lein, rhyngweithiol yn Gymraeg gystadlu gyda chyfryngau byd-eang, a dyna un o'r heriau mwyaf sylweddol sy'n wynebu'r iaith. Er ein bod yn darparu rhai o’r gwefannau mwyaf poblogaidd yn Gymraeg ers nifer o flynyddoedd, rydyn ni eisiau creu mwy o argraff ar ein cynulleidfa. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae nifer y defnyddwyr sy’n defnyddio gwefannau Cymraeg y BBC wedi cynyddu dros 50% - ond rydyn ni’n hyderus bod yna le i dyfu ymhellach wrth i’r defnydd o ffônau symudol a thabledi gynyddu. Rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hyd yma er mwyn cyrraedd 50,000 o ddefnyddwyr unigryw bob wythnos."[1]

Roedd y darllediad cyntaf yng Nghymru ar 13 Chwefror 1923[2] o'r orsaf radio 5WA, a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o'r BBC Regional Programme ac yna'r BBC Home Service yn 1939. Gwnaed y darllediad cyntaf yn Gymraeg gan y gweinidog Gwilym Davies ar Ddydd Gŵyl Dewi 1923.[3]

Yn ystod y cyfnod yma, gwasanaethwyd y wlad o sawl canolfan o gwmpas Cymru. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tewyd y gwasanaethau rhanbarthol i gyd a darlledwyd yr Home Service o Lundain, er roedd peth cynnwys Cymreig.[2]

Agorwyd canolfan BBC Bangor, Bryn Meirion, yn 1935 a'r pennaeth oedd y cynhyrchydd radio dylanwadol, Sam Jones. Bu'n meithrin nifer o ddoniau ifanc ar raglen y Noson Lawen. Yn ystod y rhyfel, daeth canolfan y BBC ym Mangor yn gartref i adran Adloniant y BBC, er na ddatgelwyd hyn yn gyhoeddus.[2] Symudodd nifer o sêr radio cynnar y BBC i Fangor yn ystod y cyfnod yma gan cynnwys Tommy Handley, Arthur Askey, Cavan O' Connor a Charlie Chester.[4]

Daeth y signalau teledu cyntaf i Gymru ar 15 Awst 1952 o Trosglwyddydd Gwenfô a oedd newydd ei godi. Roedd y trosglwyddydd yn darlledu gwasanaeth BBC Television o Lundain. Yn 1957, cydnabyddwyd Cymru pan lansiwyd rhanbarth BBC West o Fryste gyda bwletin newyddion pum munud i Gymru, wedi ei ddilyn yn 1962 gan y rhaglen newyddion ddyddiol BBC Wales Today.[2]

 
Y Ganolfan Ddarlledu, Llandaf

Lansiwyd BBC Cymru Wales ar 9 Chwefror 1964 gan ddarparu gwasanaeth penodol i Gymru. Cafodd y gwasanaeth newydd ei hyrwyddo yn helaeth (gan ddatgan Wales gets its very own TV service in 1964!) gyda hysbysebion animeddiedig yn defnyddio swn corau Cymreig i esbonio am ymyrraeth y signal o'r mynyddoedd.[5] Dwy flynedd yn ddiweddarach yn 1966, agorwyd pencadlys newydd BBC Cymru Wales yn y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf, Caerdydd a daeth y darllediad lliw cyntaf i Gymru yn 1970.[6]

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, parhaodd y BBC Home Service gyda'i raglenni disodli rhanbarthol, yn cynnwys gwasanaeth disodli i Gymru. Parhaodd y gwasanaeth yma ar ôl y newid o'r Home Service i Radio 4 a wnaeth baratoi'r ffordd ar gyfer dwy wasanaeth radio llawn amser - BBC Radio Cymru yn 1977, wedi ei ddilyn y flwyddyn ganlynol gan BBC Radio Wales.[6]

 
Bws darlledu allanol BBC Cymru Wales, 2009

Cyn 1982, roedd BBC Cymru Wales yn darlledu rhaglenni teledu yn Gymraeg a Saesneg, gyda'r rhaglen newyddion Heddiw a'r ddrama gyfres Pobol y Cwm yn rhan allweddol o'r allbwn. Newidiodd hyn pan lansiwyd S4C ar 1 Tachwedd 1982 a trosglwyddwyd holl raglenni Cymraeg y BBC ac HTV i'r sianel newydd. Roedd rhaid i'r BBC ddarparu lleiafswm o ddeg awr yr wythnos ar gyfer S4C, yn cynnwys Pobol y Cwm a'r gwasanaeth newyddion estynedig Newyddion.

Parhaodd BBC Cymru Wales i ehangu ei wasanaethau yn y 1990au hwyr. Ymddangosodd y tudalennau gwe cyntaf ar gyfer Cymru yn 1997 ar BBC Online, yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion am raglenni, yr amserlen, digwyddiadau cymunedol a storiau eraill.[6][7] Y flwyddyn ganlynol, cafodd BBC Cymru ofod darlledu ychwanegol drwy ddefnyddio amser disodli ar sianel ddigidol BBC Choice, o ddiwedd yr oriau brig i ganol nos.[6] Parhaodd hyn nes i'r sianel ddod i ben yn 2001; wedi hynny byddai BBC Cymru yn disodli rhaglenni oriau brig ar sianel BBC Two ar lwyfannau digidol i ddarlledu BBC 2W.[6][8] Caewyd y gwasanaeth hwn ar 2 Ionawr 2009 - cyn y newid i teledu digidol a fyddai'n diweddu'r arfer o ddarlledu arlwy wahanol ar y sianeli digidol ac analog.[9]

Gyda'r ehangiad yn y nifer o gynhyrchiadau drama a wnaed gan BBC Cymru ers 2011, adeiladwyd stiwdios teledu newydd ym Mae Caerdydd a symudodd set Pobol y Cwm i'r lleoliad.[10]

Stiwdios

golygu
 
Adeilad BBC Cymru ym Mangor, Gwynedd.

Rhwng 1967 a 2020 roedd pencadlys BBC Cymru yn Y Ganolfan Ddarlledu, Llandaf, Caerdydd.[6] Adeiladwyd y ganolfan yn 1966 ac fe'i agorwyd y flwyddyn ganlynol fel lleoliad pwrpasol ar gyfer ehangu presenoldeb y BBC yng Nghaerdydd.[6] Roedd y ganolfan yn cynnwys stiwdios ar gyfer rhaglenni newyddion, gofod ar gyfer cynyrchiadau radio a ddefnyddiwyd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hyd at 2009, a stiwdio arall ar gyfer cynyrchiadau drama a adeiladwyd yng nghanol y 1970au.[11]

Cyn y ganolfan yn Llandaf, roedd y BBC yng Nghymru yn defnyddio capel wedi ei addasu, yn Broadway, Caerdydd a canolfan dros dro ar lannau'r afon Taf.[2] Er fod y stiwdios yma yn cael eu defnyddio ar gyfer rhaglenni drama, adloniant a rhanbarthol, nid oedd y safle yn gwbl addas. Dim ond dau stiwdio oedd ar y safle, y ddau o fewn y capel, a ni chafwyd cyfleuster i ddarlledu ffilm o'r safle am sawl blwyddyn; roedd ffilm yn cael ei chwarae fewn i raglenni o beiriant telecine ym Mryste neu Llundain a proseswyd ffilm ar gyfer newyddion gan gwmni o'r enw Park Pictures yng Nghaerdydd cyn i'r BBC gael ei offer ei hun yn y capel ar Heol Stacey.

 
Adeiladau stiwdios Porth y Rhath, BBC Cymru

Yn fwy diweddar, daeth fwy o gynhyrchiadau drama mawr i BBC Cymru a roedd angen buddsoddi mewn stiwdios newydd. I ddechrau, buddsoddwyd yn Upper Boat Studio yn Glan-bad ger Pontypridd fel gofod ar gyfer sawl cynhyrchiad, yn cynnwys Doctor Who a'i chwaer-raglenni Torchwood a The Sarah Jane Adventures. Er y buddsoddiad yno, yn fuan roedd angen mwy o ofod ar gyfer y cynyrchiadau ychwanegol oedd yn cael eu symud i Gymru.[12] Yn Mawrth 2009 penderfynwyd byddai cynhyrchiadau'r BBC Casualty a Crimewatch yn symud o'u cartref yn BBC Bryste i Gaerdydd.[12]

Adeiladwyd cyfres o stiwdios newydd ar gyfer y rhaglenni yma, gyda 170,000 troedfedd sgwâr o le, fel cartref i gynhyrchiadau fel Doctor Who, The Sarah Jane Adventures, Casualty, Upstairs Downstairs, a Pobol y Cwm. Wedi ei leoli ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd, cafwyd cytundeb yn Ionawr 2009 i adeiladu Stiwdios Porth y Rhath[13], cychwynodd y gwaith adeiladu yn Mehefin 2010[14] a cwblhawyd y gwaith yn Chwefror 2011. Cychwynnodd gwaith cynhyrchu ar y safle yn hydref 2011[13] ac agorwyd y safle'n swyddogol ar 12 Mawrth 2012.[15] O ganlyniad, symudodd Pobol y Cwm o'i stiwdios yn Llandaf a symudodd Doctor Who o stiwdios Glan-bad i'r ganolfan newydd, gyda Casualty yn ymuno â nhw yn ddiweddarach. Er ei fod wedi gynllunio ar ei gyfer, ni ddefnyddiwyd y safle ar gyfer y Sarah Jane Adventures, o ganlyniad i farwolaeth y brif actores Elisabeth Sladen yn 2011, na chwaith Upstairs Downstairs, yn dilyn canslo'r gyfres.

Cyhoeddwyd yn Awst 2013 y byddai stiwdios Llandaf yn cau o fewn rhai blynyddoedd a byddai pencadlys BBC Cymru yn symud i safle newydd.[16] Yn Mehefin 2014 cyhoeddwyd y byddai'r pencadlys newydd yn cael ei adeiladu ar hen safle orsaf fysiau Caerdydd Canolog ac yn gartref i 1000 o staff. Byddai gan yr adeilad newydd hanner yr arwynebedd llawr na'r hen ganolfan a 70% llai o ofod stiwdio, o ganlyniad i agor Porth y Rhath.[17] Cychwynnodd y gwaith o symud rhai staff i'r pencadlys newydd yn Hydref 2019 a cwblhawyd y gwaith o drosglwyddo yr holl ddarllediadau radio a theledu i'r adeilad erbyn diwedd Medi 2020.

Yn ogystal â'r lleoliadau yng Nghaerdydd, mae gan BBC Cymru adeiladau yn Aberystwyth, Bangor, Caerfyrddin, Y Drenewydd, Penrhyndeudraeth, Abertawe a Wrecsam; a Neuadd Hoddinnott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru sy'n gartref i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Cynyrchiadau teledu

golygu
 
Presenoldeb BBC Cymru yn dathliad 150 mlynedd Y Wladfa Gymreig yn Porth Madryn, Patagonia, yr Ariannin.

Mae BBC Cymru Wales yn cynhyrchu rhaglenni lleol a rhwydwaith ar gyfer darlledu yng Nghymru a gweddill y DU. Yn y blynyddoedd diweddar, mae eu cynyrchiadau drama wedi bod yn arbennig o llwyddiannus, yn cynnwys ar adfywiad yn 2005 o'r gyfres wyddonias Doctor Who a'i sgil-rhaglenni Torchwood (2006) a The Sarah Jane Adventures (2007). Yn ogystal mae BBC Cymru yn comisiynu drama ar gyfer rhwydwaith y BBC o gynhyrchwyr annibynnol, tebyg i Life on Mars (2006–2007)

Mae'r BBC wedi gweithio ar y cyd gyda S4C wrth gomisiynu nifer o ddramau sy'n cael ei ffilmio gefn-wrth-gefn ar gyfer fersiynau Cymraeg/Saesneg neu ddwyieithog. Mae rhain yn cynnwys Y Gwyll, Un Bore Mercher a Craith. Darlledir y dramau yma ar S4C yn gynta, yna BBC One Wales ac yn ddiweddarach ar BBC Four.

Cynyrchiadau mewnol

golygu

Crewyd y cynyrchiadau canlynol gan BBC Cymru ar gyfer eu darlledu yng Nghymru:

  • Wales Today (1962–presennol)
  • Week In Week Out (1964–2017)
  • Pobol y Cwm (1974–presennol)
  • Ffeil (1995–presennol)
  • Newyddion (1982–presennol)
  • Satellite City (1996–1999)
  • Belonging (1999–2009)
  • The Bench (2001–2002)
  • First Degree (2002)
  • High Hopes (2002–2009)
  • Hospital 24/7 (2009–presennol)
  • Scrum V (1995–presennol)

Yn ogystal â rhaglenni i Gymru, mae cynyrchiadau rhwydwaith o BBC Cymru yn cynnwys:

Comisiynau annibynnol

golygu

Yn ogystal â comisiynau mewnol, mae BBC Cymru yn comisiynu cwmniau annibynnol i gynhyrchu rhaglenni. Mae rhain yn cynnwys:

Ar gyfer Gymru:

  • Coal House (2007–2008)
  • The Wright Taste (2008)
  • Crash (2009–2010)

Ar gyfer rhwydwaith y DU:

  • Shakespeare: The Animated Tales (1992, 1994)
  • Casanova (2005)
  • The Girl in the Café (2005)
  • Life on Mars (2006–2007)
  • Wide Sargasso Sea (2006)
  • This Life + 10 (2007)
  • Ashes to Ashes (2008–2010, spinoff o Life on Mars)
  • Merlin (2008–2012)
  • Being Human (2009–2013)
  • Rhod Gilbert's Work Experience (2009–presennol)
  • Sherlock (2010–presennol)
  • Dirk Gently (peilot 2010, cyfres 2012)

Ar gyfer S4C/BBC:

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y BBC Archifwyd 2013-08-23 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 11 Tachwedd 2013
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "Our History 1923-1966". About BBC Cymru Wales. BBC Cymru Wales. Cyrchwyd 22 Mai 2012.
  3.  Davies, Gwilym (1879–1955). Y Bywgraffiadur Ar-lein. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2013.
  4. Atgofion BBC Bangor yn 80 // BBC Bangor Memories at 80 , BBC Cymru Fyw, 27 Mawrth 2015. Cyrchwyd ar 22 Chwefror 2018.
  5. "History of BBC Wales". TVARK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ionawr 2012. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 6.6 "History of the BBC in Wales". About BBC Cymru Wales. BBC Cymru Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-14. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2015.
  7. "BBC Wales Online (1998)". Internet Archive/BBC Cymru Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Gorffennaf 1998. Cyrchwyd 25 Mai 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "BBC Wales launches new channel". BBC News. 29 Hydref 2001. Cyrchwyd 25 May 2012.
  9. "Up to 155 jobs to go at BBC Wales". BBC News. 18 Hydref 2007. Cyrchwyd 25 Mai 2012.
  10. Moore, Rowan (25 Mawrth 2012). "Roath Lock studios, Cardiff – review". The Observer. Cyrchwyd 11 Mehefin 2014.
  11. Kempton, Martin. "Rest of Britain today". TV Studio History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mehefin 2012. Cyrchwyd 25 Mai 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. 12.0 12.1 "BBC evicts top shows from London". BBC News. 15 Hydref 2008. Cyrchwyd 30 Mawrth 2010.
  13. 13.0 13.1 Brown, Maggie (8 Hydref 2010). "BBC Cardiff drama village takes shape". Guardian. Cyrchwyd 25 Mai 2012.
  14. "Work starts on BBC Wales drama village in Cardiff Bay". BBC News. 24 Mehefin 2010. Cyrchwyd 25 Mai 2012.
  15. Palit, Nick (12 Mawrth 2012). "BBC Roath Lock studios: Official opening in Cardiff Bay". BBC News. Cyrchwyd 25 Mai 2012.
  16. "BBC's Cardiff headquarters to relocate". Ariel. BBC. 1 Awst 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-10. Cyrchwyd 11 Mehefin 2014.
  17. "BBC Wales HQ to move to Cardiff city centre". Ariel. BBC. 10 Mehefin 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-26. Cyrchwyd 11 Mehefin 2014.