Chris Stuart
Roedd Christopher Elliot Stuart (Chwefror 1949 – 13 Gorffennaf 2022) yn newyddiadurwr, cyfansoddwr caneuon, cyflwynydd a chynhyrchydd radio a theledu o Loegr.
Chris Stuart | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1949 Durham |
Bu farw | 13 Gorffennaf 2022 |
Dinasyddiaeth | Lloegr Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, troellwr recordiau ar y radio, cyfansoddwr caneuon |
Roedd yn adnabyddus fel un o gyflwynwyr cyntaf BBC Radio Wales.[1] Roedd e'n gynhyrchydd gweithredol cyfres gwis BBC Two Only Connect. Fel cyflwynydd bu’n arwain y rhaglen frecwast cynnar ar BBC Radio 2 rhwng 1988 a 1991.[2]
Cafodd Stuart ei eni yn Ninas Durham Cafodd ei fagu yn Swydd Nottingham a Swydd Gaerlŷr. Darllenodd wleidyddiaeth, athroniaeth ac economeg yn New College, Rhydychen, ac wedi graddio symudodd i Gymru lle y dechreuodd weithio fel newyddiadurwr i'r Western Mail. Roedd yn aelod o'r band comedi "Baby Grand", a gafod dwy gyfres deledu ar BBC Two a rhyddhaodd albwm ar label Decca. Gyda'i wraig Megan, sefydlodd y cwmni cynhyrchu Presentable.[3] Bu farw Stuart yn 73 oed.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Chris Stuart: Ex-BBC Radio Wales presenter dies aged 73". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2022.
- ↑ McCarthy, James. "Tributes pour in for Radio 2 star Sir Terry Wogan". Wales Online (yn Saesneg).
- ↑ Williamson, David. "Presentable dealt a golden hand with big money sale". Wales Online (yn Saesneg).
- ↑ Amy Denman; Aaron Morris (13 Gorffennaf 2022). "Durham-born BBC Radio 2 DJ Chris Stuart dies aged 73 - leading to tributes from colleagues". Chronicle Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2022.