Christopher Bethell
offeiriad (1773-1859)
Clerigwr o Sais a fu'n Esgob Bangor o 1830 hyd ei farwolaeth oedd Christopher Bethell (21 Ebrill 1773 – 19 Ebrill 1859).
Christopher Bethell | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ebrill 1773 |
Bu farw | 19 Ebrill 1859 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Dean of Chichester |
Roedd Bethell yn fab i'r Parchedig Richard Bethell, o Goleg Wadham, Rhydychen. Roedd yn rheithor Kirby Wiske, Swydd Efrog o 1808 hyd 1830 ac yn ddeon Chichester o 1814 hyd 1830.
Trosglwyddwyd ef gan Ddug Wellington o fod yn Esgob Caerwysg i Fangor ar 28 Hydref 1830. Roedd yn uchel-eglwyswr, a chyhoeddodd nifer o lyfrau, yn arbennig A General View of the Doctrine of Regeneration in Baptism, 1821. Roedd yn un o olyniaeth o esgobion Seisnig dros gyfnod o bron ddwy ganrif ym Mangor, esgobaeth lle amcangyfrifid fod 195,000 allan o 200,000 o bobl bron yn uniaith Gymraeg. Claddwyd ef ym munwent Llandygai.