Coleg y Brenin, Caergrawnt
Coleg y Brenin, Prifysgol Caergrawnt | |
Arwyddair | Veritas et utilitas |
Enw Llawn | Coleg y Brenin Ein Harglwyddes a Sant Nicolas yng Nghaergrawnt |
Sefydlwyd | 1441 |
Enwyd ar ôl | Harri VI, Y Forwyn Fair a Sant Nicolas |
Lleoliad | King's Parade, Caergrawnt |
Chwaer-Goleg | Coleg Eton Coleg Newydd, Rhydychen |
Prifathro | Miles Young |
Is‑raddedigion | 422 |
Graddedigion | 287 |
Gwefan | www.kings.cam.ac.uk |
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg y Brenin (Saesneg: King’s College).
Hanes
golyguFfurfiwyd y coleg gan Harri VI, brenin Lloegr ym 1441. Tarfwyd ar ei gynlluniau adeiladu mawreddog gan Ryfeloedd y Rhosynnau, ac ni chwblhawyd y cynllun tan 1544 dan nawdd Harri VIII.
Capel Coleg y Brenin
golyguMae'r capel yn enghraifft o bensaerniaeth gothig, ac fe'i adeiladwyd dros gyfnod o gan mlynedd. Ysgythrwyd y nenfwd anferth o graig, ac mae ffenestri lliw, a'r llun Ymhyfrydwch y Magi gan Rubens yn addurno'r adeilad. Defnyddir y capel fel addoldy, ac ar gyfer cyngherddau. Mae côr y capel yn fyd-enwog.
Cynfyfyrwyr
golygu- Thomas Carte (1686–1754), hanesydd
- John Ewer (m. 1774), Esgob Llandaf ac Esgob Bangor
- John Maynard Keynes (1883–1946), economegydd
- E. M. Forster (1879–1970), nofelydd
- David Davies, Arglwydd Davies (1880–1944), gwleidydd
- Rupert Brooke (1887–1915), bardd
- Alan Turing (1912–1954), mathemategydd, a chyfrifiadurwr
- Robert Evan Kendell (1935–2002), seiciatrydd
- Robert Tear (1939–2011), canwr tenor
- Salman Rushdie (g. 1947), nofelydd
- Mervyn King, Arglwydd King (g. 1948), economegydd
- Deri Tomos (g.1952), gwyddonydd
- Zadie Smith (g. 1975), nofelydd