Chwant balŵnau yw’r cyflwr o gymryd diddordeb anghyffredin mewn balŵnau ar gyfer cynnwrf rhywiol. Gelwir un sydd â’r cyflwr hwn yn falŵngarwr. Mae natur y chwant yn amrywio o berson i berson: mae rhai’n mwynhau’r weithred o enchwythu, neu wylio eraill yn enchwythu, rhai yn mwynhau ffrwydro’r balŵn, a rhai yn ymgyffroi yn lliw, gloÿwder, arogl, gwead, sŵn a symudiad y gwrthrych ei hun. Er bod yna enghreifftiau o falŵngarwragedd, balŵngarwyr yw’r mwyafrif o bell ffordd.

Merch ar ben balŵn.

Cefndir golygu

Mae yna sawl damcaniaeth sy’n ceisio egluro chwant balŵnau, ond nid oes un sy’n egluro’r cyfan. Cytuna llawer mai ym mhlentyndod y mae gwreiddiau’r chwant, sy’n datblygu ymhellach trwy’r glasoed ac yn yr oedolyn. Rhai o’r rhesymau cyffredin tu ôl i’r chwant a geir gan falŵngarwr yw ofn o balŵnau yn eu plentyndod (yna mae’r ofn yn lled-bylu ac yn troi’n chwant); teimladau rhywiol cynnar (yn aml, cysylltir y balŵn â’r teimlad o groen, a’i ddefnyddio weithiau i fwdwl-wasgu); a’r defnydd o falŵn mawr yn ddarpar-gymar.

Arferion golygu

Mae yna bedwar cam yng nghylchred bywyd balŵn: enchwythu, ymhyfrydu, cyfathrach a dinistr. Gall unrhyw gam neu gyfuniad o gamau fod o ddiddordeb i’r balŵngarwr. O fewn y gymuned falŵngaru, gwahaniaethir rhwng y sawl sy’n ffrwydro’r balŵn, a’r sawl sy’n ymatal rhag ffrwydro. Yn aml, mae cymar rhywiol, yn ogystal â’r balŵn, yn rhan o’r gweithgareddau, ac yn rhan o’r rhagarweiniad at gael rhyw.

Gweler hefyd golygu

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: chwant balŵnau, balŵngarwr o'r Saesneg "balloon fetishism, balloon fetishist". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.