Nodwedd weledol sy'n deillio o'r goleuni gweladwy y mae gwrthrychau'n ei daflu, ei drosglwyddo neu ei gynhyrchu yw lliw.[1]

Lliw
Enghraifft o'r canlynolnodwedd ffisegol, meta-ddosbarth o'r radd flaenaf Edit this on Wikidata
Mathffenomen optegol, nodwedd, qualia Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebdim lliw Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lliwgylch

Prif liwiau

golygu

Ceir lliwiau cynradd (hefyd cysefin), lliwiau eilradd a lliwiau trydyddol.

Geiriau lliwiau yn Gymraeg

golygu

Yn y Gymraeg, gall lliw fod yn wrywaidd neu'n fenywaidd, yn ddibynnol ar yr enw e.e. buwch wen, tarw gwyn; car glas, carreg las. Ceir hefyd ffurf luosog, a ddaw ar ôl enw lluosog - er bod yr arferiad hwn yn prysur ddiflannu (2015) e.e. dant gwyn, dannedd gwynion; pesel felen, pensiliau melynion; dyn du, dynion duon.

Lliw Ffurf fenywaidd Ffurf luosog Geiriau traddodiadol
Brown - - Gwinau
Coch - Cochion -
Du - Duon -
Glas - Gleision -
Gwyn Gwen Gwynion -
Gwyrdd Gwerdd Gwyrddion -
Melyn Melen Melynion -
Llwyd - Llwydion -
Oren - - Melyngoch
Porffor / Piws - - Glasgoch

Cyfeiriadau

golygu
  1.  lliw. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2021.

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am lliw
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am liw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.