Chwaraeon Paralympaidd

Term am ystod eang o chwaraeon ar gyfer pobl â anableddau corfforol yw chwaraeon Paralympaidd. Tra bod nifer o bobl â anableddau'n cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden ar amryw o wahanol lefelau, mae chwaraeon Paralympaidd yn cyfeirio at y cystadlaethau a drefnir fel rhan o'r symudiad Paralympaidd rhyngwladol. Trefnir a rhedir rhain o dan orychwyliaeth y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol a chymdeithasau chwaraeon rhyngwladol eraill.

Chwaraeon Paralympaidd
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon, competition class Edit this on Wikidata
Mathsport competition at a multi-sport event, parasport Edit this on Wikidata
Rhan oGemau Paralympaidd Edit this on Wikidata
Tenis cadair olwyn, un o'r chwaraeon Paralympaidd.

Hanes golygu

Datblygodd chwaraeon wedi eu trefnu ar gyfer pobl â anableddau allan o raglenni adferiad meddygol. Cyflwynwyd chwaraeon fel rhan o adferiad wedi'r Ail Ryfel Byd, mewn ymateb i anghenion niferoedd mawr o gyn-filwyr a dinasyddion a oedd wedi eu anafu. Esblygodd chwaraeon fel adferiad i ddod yn chwaraeon hamddenol, ac yna i chwaraeon cystadleuol. Arloeswr yr ymdriniaeth yma oedd Ludwig Guttmann o Ysbyty Stoke Mandeville yn Lloegr. Ym 1948, tra roedd y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn Llundain, trefnodd gystadleuaeth chwaraeon ar gyfer athletwyr mewn cadeiriau olwyn yn Stoke Mandeville. Dyma oedd tarddiad Gemau Stoke Mandeville, a esblygodd yn ddiweddarach i ddod yn y Gemau Paralympaidd cyfoes.

  Eginyn erthygl sydd uchod am y Gemau Paralympaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.