Chwarel Coed Madog

Chwarel lechi yn Nyffryn Nantlle ger Talysarn oedd Chwarel Coed Madog neu'r Gloddfa Glai (cyf. OS 490529).

Agorodd y chwarel yn nechrau'r 19g, ac erbyn 1883 roedd yn cyflogi 135 o weithwyr. Roedd y chwarel yn cysylltu a Rheilffordd Nantlle, a agorwyd yn 1828, trwy Chwarel Cloddfa'r Coed.

Caeodd y chwarel yn 1908, ac erbyn hyn nid oes dim i'w weld ar y safle.

Llyfryddiaeth golygu

  • Alan John Richards Gazeteer of slate quarrying in Wales (Llygad Gwalch, 2007)