Tal-y-sarn

pentref yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Talysarn)

Pentref yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, yw Tal-y-sarn ("Cymorth – Sain" ynganiad ) heb fod ymhell o Ben-y-groes. Tyfodd y pentref yn gyflym yn ystod y 19g pan oedd nifer o chwareli llechi yn yr ardal, megis Chwarel Dorothea.

Tal-y-sarn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0522°N 4.2562°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH488529 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Pobl o Dal-y-sarn

golygu
  • Brodor o Dalysarn oedd y bardd R. Williams Parry a aned yn Rhif 37, Ffordd yr Orsaf. Mae cofeb iddo yn Ffordd yr Orsaf a gynlluniwyd gan R. L. Gapper.
  • Annant, chwarelwr, beirniad eisteddfodol a bardd.
  • Gwilym R. Jones, bardd, llenor a golygydd Y Faner.
  • Idwal Jones, awdur y gyfres radio SOS, Galw Gari Tryfan.

Cysylltir Tal-y-sarn hefyd â'r pregethwr enwog o'r 19g, John Jones, Tal-y-sarn, er nad oedd ef yn enedigol o'r ardal.

Archaeoleg a mytholeg

golygu

Rhwng Pen-y-groes a Thal-y-sarn mae bryngaer Caer Engan. Mae gan yr ardal gysylltiadau a phedwaredd cainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Dolbebin gerllaw Tal-y-sarn oedd cartre’r forwyn Goewin, a heb fod ymhell mae Baladeulyn, lle darganfu Gwydion ei nai Lleu Llaw Gyffes ar ffurf eryr clwyfedig mewn derwen.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Gwilym R. Jones, "Yn Nhal-y-sarn ers talwm...". Atgofion am Ddyffryn Nantlle. (Llyfrgell Sir Gaernarfon, 1968)
 
Neuadd Band Arian Dyffryn Nantlle, Tal-y-sarn
Neuadd Band Arian Dyffryn Nantlle, Tal-y-sarn 
 
Tal-y-sarn o'r awyr
Tal-y-sarn o'r awyr