Chwarel lechi yn ardal Blaenau Ffestiniog, Gwynedd oedd Chwarel Diffwys, hefyd Chwarel Diffwys Casson. Saif i'r gogledd-ddwyrain o Flaenau Ffestiniog (cyf. OS SH681459).

Lefel Dwr Oer gyda Chwarel Diffwys yn y cefndir.

Dechreuwyd y chwarel yn y 1760au gan Methusalem Jones o Ddyffryn Nantlle. Yn ôl y stori, dechreuodd gloddio am lechi yma yn dilyn breuddwyd. Diffwys oedd y chwarel fawr gyntaf yn ardal y Blaenau, a'r gyntaf i ddefnyddio incleiniau a thramffyrdd mewnol. Yn 1800, prynwyd y safle gan William Turner a Thomas a William Casson. Cafodd gysylltiad a Rheilffordd Ffestiniog yn 1860. Caewyd y chwarel yng nghanol y 1950au, er i rywfaint o waith gael ei wneud yno yn y 1980au gan berchenogion Chwarel Llechwedd.

Llyfryddiaeth golygu

  • Alan John Richards Gazeteer of slate quarrying in Wales (Llygad Gwalch, 2007)