Blaenau Ffestiniog

tref chwarel yng Ngwynedd

Tref yng Ngwynedd, Cymru, yw Blaenau Ffestiniog("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir gerllaw Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ganddi boblogaeth o 4,830 (Cyfrifiad 2001) (Gan gynnwys Llan Ffestiniog ). Mae Caerdydd 175.6 km i ffwrdd o Flaenau Ffestiniog ac mae Llundain yn 308.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sydd 29 km i ffwrdd.

Blaenau Ffestiniog
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,875 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9944°N 3.9375°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH705455 Edit this on Wikidata
Cod postLL41 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Roedd y dref yn ganolfan bwysig iawn yn y diwydiant llechi.

Mae'r wlad o gwmpas y dref yn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri, ond dyw'r dref ei hunan ddim - fe'i heithrwyd oherwydd yr olion diwydiannol sy'n amlwg o amgylch y dref. Dywedir ei bod yn bwrw llawer o law yno. Lleolir y Moelwynion yn agos i'r dref, uwchben pentref Tanygrisiau.

Mae'r cylch yn cael ei wasanaethu gan bapur bro o'r enw Llafar Bro sy'n cael ei gyhoeddi unwaith y mis.

Yn hanesyddol, roedd yn rhan o Sir Feirionnydd.

Hanes golygu

 
Traphont yn y Blaenau tua 1975

Tyfodd y Blaenau yn gyflym o gwmpas y chwareli llechi yn ystod y 19g wedi i ŵr o'r enw Methusalem Jones ddarganfod llechfaen yn yr ardal yn yr 1760au. Agorwyd rheilffordd fach (Rheilffordd Ffestiniog heddiw) i gludo llechi o'r Blaenau i Borthmadog, oedd yn borthladd bach prysur yn y 19eg ganrif. Yn anterth y diwydiant llechi ar droad yr 20g, cododd poblogaeth y dref i 11,434 yn ôl cyfrifiad 1901, gan ei gwneud yn ail dref fwyaf gogledd Cymru ar ôl Wrecsam ar y pryd.[1]

Diwylliant golygu

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog ym 1898.

Cerddoriaeth Gyfoes Gymraeg golygu

Mae rhestr faith o fandiau chwyldroadol Cymraeg sy'n dod o Flaenau Ffestiniog, yn eu plith: Anweledig, Llwybr Llaethog, Mim Twm Llai, Frizbee, dau boi o Blaena, Llan Clan a Gwibdaith Hen Fran er enghraifft.

Côr Meibion y Brythoniaid golygu

Trafnidiaeth golygu

Saif Blaenau ar un pen Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n ei chysylltu â Chyffordd Llandudno a Llandudno trwy dirlun prydfrerth Dyffryn Lledr a Dyffryn Conwy. Ceir lein arall sydd ar gyfer twristiaid yn bennaf heddiw ond yn y gorffennol a fu'n dwyn llechi i'r cei ym Mhorthmadog, sef Reilffordd Ffestiniog. Mae'r A470 yn mynd trwy'r dref cyn dringo Bwlch y Gorddinan. Mae gwasanaethau bws cyson 1B i Borthmadog, sy'n cysylltu â'r gwasanaeth i Fangor ac mae gwasanaethau bysus eraill i Landudno a Dolgellau. Mae gwasanaeth bws lleol hefyd sy'n cysylltu Tanygrisiau a Rhiwbryfdir gyda chanol y dref.

Ysgolion golygu

Mae'r dref yn cael ei gwasanaethu gan dair ysgol gynradd, sef: Ysgol Manod, Ysgol Maenofferen ac Ysgol Tanygrisiau. Mae'r ysgolion hyn yn bwydo'r ysgol uwchradd leol, Ysgol y Moelwyn.

 
Golygfa o'r Blaenau, yn edrych i lawr o'r Moelwyn Bach

Clybiau a Chymdeithasau golygu

 
Seiclwr mynydd yn ymarfer ar un o draciau Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog

Cyflogaeth golygu

Er fod y diwydiant chwareli llechi yn parhau i gyflogi nifer o bobl yn y dref, mae'r diwydiant hwn wedi cael ei ddisodli fel prif gyflogwyr gan ffatri Blaenau Plastics sydd â staff o tua 300. Rhai o gyflogwyr mawr eraill y dref yw ffatri Metcalfe, sy'n creu offer arlwyo, a phwerdy trydan-dŵr Tanygrisiau. Mae dau gwmni cludiant ffyrdd mawr wedi eu lleoli yn yr ardal hefyd, sef 'Roberts Ffestiniog' o Lan Ffestiniog a 'E. Hughes' o'r Manod.

Gwahanol Ardaloedd y Dref golygu

Tafarnau'r Dref golygu

Enwogion golygu

Y Glaw golygu

Mae glaw y Blaenau yn ddihareb. Mae’r graff canlynol yn seiliedig ar ddata o Hanes Plwyf Ffestiniog yn dangos nad dihareb go iawn yw liquid sun brolia rhai trigolion y dref!

 
Graff yn dangos glaw ardal Ffestiniog o’i gymharu â’r trefi o gwmpas, yn y cyfnod 1865-1880 (data GJ Williams, 1882)

[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • amryw awduron, Chwareli a Chwarelwyr (Caernarfon, 1974)
  • Gwyn Thomas, Yn Blentyn yn y Blaenau (1981). Darlith hunangofiannol.
  • Gwyn Thomas, Blaenau Ffestiniog (2007 Gomer). Casgliad o gerddi a lluniau.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gogledd Orllewin y BBC
  2. G.J. Williams (1882) Hanes Plwyf Ffestiniog

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato