Chwarel Gallt-y-Llan
Chwarel lechi ar lechweddau'r Wyddfa oedd Chwarel Gallt-y-Llan. Saif ychydig i'r de-orllewin o bentref Nant Peris.
Math | chwarel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.10267°N 4.0935°W |
Gweithiwyd y chwarel yn ysbeidiol rhwng y 1810au a 1940. Roedd cynnwys swlffwr uchel y llechi yn golygu nad oeddynt o'r safon uchaf, a dim ond ychydig o weithwyr a gyflogid yma.