Nantperis

pentref ger troed yr Wyddfa
(Ailgyfeiriad oddi wrth Nant Peris)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Hywel Williams (Plaid Cymru).[1][2] Pentref bychan yn Eryri yw Nantperis ("Cymorth – Sain" ynganiad ); saif yn nyffryn 'Nant Peris'.[3] Saif ychydig i'r de-ddwyrain o Lyn Peris a phentref Llanberis, ac mae Bwlch Llanberis yn arwain ymlaen i'r de-ddwyrain o'r pentref.

Nantperis
Nantperis - Eglwys Sant Peris, Gwynedd, Cymru (Wales) 06.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.10474°N 4.086172°W Edit this on Wikidata

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Peris; hwn yw'r sefydliad gwreiddiol yn hytrach na Llanberis. Heb fod ymhell o'r eglwys mae Ffynnon Peris. Yn ôl traddodiad roedd dau frithyll yn arfer byw yn y ffynnon, ac os byddai'r sawl fyddai'n ymweld â'r ffynnon i geisio iachad yn gweld y brithyll, byddai ei gais yn llwyddiannus.

Mae'r pentref yn ganolfan boblogaidd gan ddringwyr, ac mae maes gwersylla yno; ceir hefyd un dafarn, Y Vaynol Arms. Gellir parcio yma a chymeryd bws "Sherpa'r Wyddfa" i Ben-y-pas ar gyfer dringo'r Wyddfa.

Mae "Nant Peris" neu "Afon Nant Peris" hefyd yn enw ar yr afon sy'n llifo i lawr Bwlch Llanberis a heibio'r pentref; a defnyddir "Nant Peris" fel enw arall ar Fwlch Llanberis ei hun hefyd.

EnwogionGolygu

Ganed y llenor William John Davies (Gwilym Peris) yn y Nant yn 1888. Symudodd i fyw yng Nghaernarfon ond roedd ei wreiddiau yn Nant Peris a defyddiai'r enw barddol Gwilym Peris.

Claddwyd y darlledwr Huw Wheldon yn y fynwent.

Dyfodiad yr haulGolygu

Mae gan drigolion Nant Peris wrth droed y Wyddfa un diwrnod arbennig yn y flwyddyn pan fo pawb yn edrych ymlaen at weld yr haul. Y dyddiad pwysig hwnnw yw Ionawr 13. Am chwe wythnos hir cyn y 13, nid yw pelydrau’r haul yn cyffwrdd â’r pentref. Y rheswm am hyn yw fod y Grib Goch a’r Wyddfa yn rhwystro iddo wenu arnom. Byddwn yn edrych yn hiraethus iawn arno’n dod i lawr yn araf o ris i ris ar lethrau’r Elidir, Y Garn a’r Glyder. Daw heibio’r Ceunant a’r Fron i lawr at Ty Isaf; ond cyn cyffwrdd â’r pentref mae’n troi yn ei ôl a dringo i gopaon Y Garn a’r Glyder ac ô’r golwg. Pob blwyddyn ar y 13 o Ionawr gwelwn yr haul yn agosáu fel pob diwrnod gaeafol clir arall, ond y tro yma nid yw’n troi’n ôl o Ty Isaf....mae’n cario ymlaen ac yn tywynnu ar groes fach ar dŵr yr eglwys...dim ond am ryw ddau funud cyn cychwyn yn ôl ar ei hynt i gopaon y mynyddoedd uchel. Er mai ond prin ddau funud yr arhosa’r haul ar dŵr Eglwys hynafol Sant Peris, mae’n ddiwrnod pwysig iawn o Ionawr yn rhoi gobaith fod dyddiau heulog hir yr haf yn agosau a thywyllwch duaf y gaeaf wedi mynd – ninnau fel paganiaid Affrica yn llawenhau a gorfeleddu...a bron yn addoli’r haul.[4]

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. www.comisiynyddygymraeg.cymru.[dolen marw] Dywed Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Cymru - Mae’n arferol ysgrifennu enw anheddiad yn un gair er mwyn gwahaniaethu rhwng aneddiadau (Nantperis, Cefncribwr) a nodweddion tirweddol (Nant Peris, Cefn Cribwr); adalwyd 10 Gorffennaf 2017.
  4. J E Ellis (Perisfab) (Codwyd o argraffiad yn Eco’r Wyddfa rhif 44, Ionawr 1980) ym Mwletin Llên Natur rhifyn 47

Gweler hefydGolygu