Chwarel Graig Ddu
Chwarel lechi yn ardal Blaenau Ffestiniog, Gwynedd yw Chwarel Graig Ddu, hefyd Chwarel Graig-ddu. Saif ar uchder o tua 600 medr ar lethrau'r Manod Mawr, i'r dwyrain o dref Blaenau Ffestiniog (cyf. OS SH727456).
Math | chwarel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.99°N 3.92°W |
Dechreuwyd cloddio llechi yma yn y 1840au, ac yn wahanol i'r mwyafrif o chwareli'r ardal, ni ddechreuwyd cloddio tanddaearol hyd yn 1920au. Un o nodweddion y chwarel yma oedd y "Ceir Gwyllt", a ddefnyddid gan y chwarelwyr i ddod i lawr yr incleiniau. Roedd y chwarel yn parhau i gael ei gweithio hyd yn ddiweddar.
Llyfryddiaeth
golygu- Evans, Emrys Criw diddan dŵr oer (Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd, 1992)
- Alan John Richards Gazeteer of slate quarrying in Wales (Llygad Gwalch, 2007)
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Hanes y Ceir Gwyllt, o penmorfa.com