Chwarel lechi i'r dwyrain o dref Blaenau Ffestiniog yw Chwarel Manod neu Chwarel Bwlch y Slaters, a elwir yn awr yn Cwt y Bugail gan ei pherchenogion, cwmni Welsh Slate. Er gwaethaf yr enw newydd, mae'n hollol ar wahan i'r hen Chwarel Cwt y Bugail. Saif tua 1,500 troedfedd uwch lefel y môr ar y Manod Mawr.

Chwarel Manod (2004)

Mae'r chwarel yn dyddio o ganol o 19g, a chysylltwyd hi a Tramffordd Rhiwbach yn 1866. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudwyd trysorau celfyddydol o'r Oriel Genedlaethol yn Llundain i'w cadw yn nhyllau Chwarel Manod er mwyn eu diogelu.

Dolen allanol golygu