Chwarel Pen yr Orsedd
(Ailgyfeiriad o Chwarel Penyrorsedd)
Chwarel lechi yn Nyffryn Nantlle yw Chwarel Pen yr Orsedd (weithiau Chwarel Penyrorsedd).
Math | chwarel |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1862 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.06395°N 4.227319°W |
Cod OS | SH65131524 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN208 |
Agorwyd y chwarel yn 1816 gan William Turner, oedd yn gyfrifol am nifer o chwareli yn yr ardal. Prynwyd hi gan W.A. Darbishire and Co. yn 1863. Roedd yn un o chwareli mwyaf Dyffryn Nantlle, gyda tua 450 o weithwyr ddiwedd y 19g.
Caewyd y chwarel yn 1997, ond mae rhywfaint o waith yn mynd ymlaen ar y safle o hyd. Yn 2006, enillodd cynllun i adfer rhai o adeiladau Pen yr Orsedd rownd Cymru yng nghyfres deledu'r BBC Restoration Village, er na fu'n llwyddiannus yn y rownd derfynol. Mae'r elusen Tirwedd wedi gwneud cais am arian i adfer yr adeiladau hyn a'u troi'n ganolfan i'r gymdeithas leol.
Dolen allanol
golygu- Safle we Tirwedd Archifwyd 2008-05-18 yn y Peiriant Wayback