Chwarren bitwidol

(Ailgyfeiriad o Chwarren bitẅidol)

Mae'r chwarren bitwidol (neu'r hypoffeisis) yn un o'r chwarrennau endocrin - tua'r un faint â phusen. O ran siap, mae'n ymwthio allan o waelod yr hypothalmws ar waelod isaf yr ymennydd. Saif yn y fosa' o fewn asgwrn y sffenoid.

Llun allan o'r clasur 'Gray's Anatomy' yn dangos lleoliad y chwarren bitwidol.
Sleisen denau drwy'r ymennydd yn dangos y lleoliad.
Prif chwarrennau'r endocrin: (Gwryw ar y chwith, benyw ar y dde)
1 Corffyn pineol 2 Chwarren bitwidol 3 Y chwarren theiroid 4 Hypothalmws 5 Chwarren adrenal 6 Pancreas 7 Ofari 8 Y ceilliau

Mae'n secredu (neu'n chwysu) hormonau gan reoli'r homeostasis, gan gynnwys yr hormonnau sy'n ysgogi chwarrennau endocrin eraill. Mae'n cysylltu i'r hypothalmws drwy'r 'median eminence'.

Pwrpas golygu

Pwrpas yr hormonnau pitwidol ydy rheoli rhai o'r prosesau hyn: