Chwarter i Un
Grŵp Cymraeg oedd Chwarter i Un neu 12:45 a ffurfiwyd yn wreiddiol ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-golegol ym Mangor yn 1979. Yn cystadlu o dan yr enw MAC, enillwyd cystadleuaeth y gân roc gyda "K.O yn y Fro".
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|
Egni'r perfformiadau oedd prif nodwedd y dyddiau cynnar.
Yn Noson Wobrwyo gyntaf y cylchgrawn Sgrech enillodd Chwarter i Un y wobr am "Grŵp Addawol 1979". Yn raddol, dros y blynyddoedd bu cryn newid yn yr arddull a'r aelodaeth.
Yr aelodau gwreiddiol oedd Tim Hartley - Llais, Gwyn 'Scrots' Elfyn-Llais, Gron Edwards - Gitâr Flaen, Dafydd Rhys- Gitâr,Trwmped, Dominic Griffiths-Bâs, Geraint 'Tonto' Jones - Drymiau. Bu Owen Owens a Rhys Powys hefyd yn drymio i'r band yn ystod y cyfnod coleg.
Aelodau
golygu- Tim Hartley - Llais
- Gwyn Elfyn - Llais (1979-81)
- Gron Edwards - Gitâr Flaen
- Dafydd Rhys - Gitâr, Trwmped
- Dominic Griffiths - Bâs (1979-1983)
- Geraint Jones - Drymiau (1979)
- Owen Owens - Drymiau (1980-1981)
- Rhys Powys - Drymiau (1981-1983)
- Kevin 'Taff' Roberts - Drymiau (1984)
- Neil Williams - Bâs (1984)
Disgyddiaeth
golygu- Twrw Tanllyd - LP aml-gyfrannog "Tin Traddodiadol" (1981)
- Dôp ar y Dôl - EP (label Recordiau 123, 1981)
- "Philistiaid/Pry yn y Pren" - Sengl (label Pesda Roc, 1982)
- Ti'n Gyrru fi Lan y Wal Caset aml-gyfrannog Teulu Huw Tan Voel (1983)
- Gobaith Llosg Caset aml-gyfrannog Cadw Reiat (1986)
- Cofnod 12:45 - CD, casgliad o ganeuon Chwarter i Un (Anhrefn 019, 2009)