Rhys Powys

cyfarwyddwr ffilm a aned yn 1962 (1962- )

Cyfarwyddwr teledu a ffilm yw Rhys Powys (ganwyd 1962) sydd wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd yn ardal Caerdydd.

Rhys Powys
Ganwyd1962 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
TadR. Alun Evans Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Fe’i ganwyd ym 1962, yn fab i Rhiannon ac R. Alun Evans, ac yn frawd i’r ddarlledwraig Betsan Powys.

Graddiodd mewn drama o Brifysgol Aberystwyth ym 1983 cyn dilyn diploma ôl-raddedig yn Ysgol Ddrama East 15 yn Llundain.

Gyrfa golygu

Treuliodd bum mlynedd yn gweithio fel perfformiwr a chyfarwyddwr theatr gan berfformio yng Nghymru, Lloegr a thramor gyda chwmnïau megis Lumiere and Son, Brith Gof a Theatrig.

Ym 1990 derbyniodd hyfforddiant ar gwrs cyfarwyddo drama deledu, ac ymunodd â thîm Criw Byw oedd yn darparu Fideo 9 i S4C, sef cyfres gerddorol a chelfyddydol arloesol i bobl ifainc. Derbyniodd Fideo 9 wobrau BAFTA Cymru am y gyfres ieuenctid orau ym 1992, a’r gyfres gerddoriaeth orau ym 1993.

Rhwng 1996 ac 1998, a 2000 a 2003 cafodd gyfle i ymuno â chriw o gyfarwyddwyr ar bum cyfres o’r ddrama Iechyd Da (Lluniau Lliw/Bracan) i S4C. Cyfres boblogaidd wedi ei gosod ym maes Iechyd yr Amgylchedd oedd hon, a gynhyrchwyd gan Peter Edwards a Branwen Cennard. Rhys gyfarwyddodd y chweched a’r seithfed gyfres ohoni.

Ers hynny bu’n cyfarwyddo deunydd drama deledu cyfrwng Cymraeg a Saesneg, yn eu plith Belonging (2003–08: cyfres 5–9) i BBC Cymru; Con Passionate (2004–08: cyfres 1,2 a 3) a Teulu (2008–10: cyfres 2 a 3) i S4C. Daeth cyfle hefyd yn 2005/6 i gyfarwyddo dwy bennod o’r gyfres rwydwaith Casualty i BBC1 (cyfres 19: pennod 45 a chyfres 20: pennod 4).

Er yr ystod o waith drama a wnaed gan Rhys nid yw wedi cyfyngu ei hun i’r genre, gan iddo hefyd gyfarwyddo rhaglenni dogfen, rhaglenni nodwedd, hysbysebion, eitemau uned camera sengl ym mhrif ddigwyddiadau’r genedl megis y Sioe Frenhinol (Boomerang) a’r Eisteddfod Genedlaethol (BBC Cymru) a chyfarwyddo camera sengl dramor yn Ewrop, Affrica a’r Dwyrain Canol.

Un o’i brif ddiddordebau yw cerddoriaeth – bu’n drymio i wahanol grwpiau dros y blynyddoedd yn cynnwys Chwarter i Un ac ef yw gitarydd y grŵp Catsgam. Dyna’r cefnlen ar gyfer ei ffilm hir gyntaf 31.12.99 – ffilm a sgriptiodd ar y cyd â Meic Povey a’r cynhyrchydd Branwen Cennard. A hithau yn noson olaf y mileniwm, mae’n gyfnod tyngedfennol i dri chwpwl, ac yn eu plith y prif gymeriad Lee (Richard Harrington) – canwr roc sydd ar fin cael ei gig gyntaf yn Llundain. Cipiodd y ffilm wobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ffilm Geltaidd yn 2000, a’r un flwyddyn cyrhaeddodd restr fer y ffilm orau yn y Gwobrau "Nombre d’Or", Gŵyl IBC, Amsterdam.

I fyd cerddoriaeth y’i denwyd yn ei ail ffilm hir, Ryan a Ronnie (2008), sydd yn deyrnged hardd i ddau ddiddanwr – Ryan Davies a Ronnie Williams, ac i swyn y cyfnod o dan sylw (yr 1970au). Addasiad o ddrama lwyfan gan Meic Povey yw hi, a addaswyd gan y sgriptiwr ei hun, ac a gynhyrchwyd gan Branwen Cennard (i Boom Films). Mae’n gyfuniad diddorol o ddogfen a drama, fe ymchwiliwyd yn drylwyr i hanes a chefndir y ddau, ond mae’r elfen ddramatig yn rhoi rhyddid i’r dychymyg fentro i fyd nostalgia a ffantasi – sy’n atgoffa rhywun o agweddau gorau y gyfres Con Passionate. Enillodd y ffilm hon wobr BAFTA Cymru 2010 i Rhys Powys am gyfarwyddwr gorau ffilm neu ddrama.

Cyfeiriadau golygu

  • "Ryan a Ronnie yn Yr Eidal", Golwg, cyfrol 22, rhif 15, 10 Rhagfyr 2009
  • Bywgraffiad gan Non Vaughan-Williams.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Rhys Powys ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.